Cyhoeddwyd: 11/11/2026 · Diweddarwyd Diwethaf: 11/11/2026

Bwletin ar gyfer Hydref 2026


Ceisiadau LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am gyllid LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs os byddwn yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs. 

Ar gyfer GDLlC AB, rhaid i ddysgwyr newydd wneud cais o fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs. Rhaid i ddysgwyr sy'n dychwelyd hefyd lofnodi eu cytundeb o fewn 9 mis o ddechrau eu cwrs. Gall dysgwyr ymgeisio ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Ffurflenni cais papur ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2027/28

O flwyddyn academaidd 2027/28 ni fyddwn bellach yn anfon ceisiadau papur atoch ar gyfer LCA a GDLlC. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn ceisiadau ar-lein, gyda bron i 95% o fyfyrwyr nawr yn ymgeisio am LCA a GDLlC ar-lein.

Rydych yn dal i allu lawrlwytho ffurflenni cais, Llyfr bach LCA a’r Canllaw i GDLlC o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am geisiadau ar-lein LCA a GDLlC, cysylltwch â ni.

Canllaw presenoldeb a salwch

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar bresenoldeb a salwch ar y wefan Gwasanaethau’r Ganolfan Ddysgu. Darllenwch y canllaw cyn cysylltu â’ch Rheolwr Cyfrif.

Cadarnhau presenoldeb GDLlC a thynnu'n ôl

Dylech gadarnhau presenoldeb tymor 1 ar gyfer pob myfyriwr GDLlC cymwys erbyn 18 Rhagfyr. Gwiriwch hefyd ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sydd wedi tynnu'n ôl. Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o'i gwrs, dylech ddiweddaru ei statws Cytundeb Dysgu i wedi tynnu'n ôl ar y porth. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith i'r dyddiad tynnu'n ôl yn unol â'r safonau gwasanaeth.

Nodiadau atgoffa safon gwasanaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y pwyntiau hyn yn y safonau gwasanaeth:
  • gwirio bod gwybodaeth presenoldeb eich myfyrwyr yn gywir cyn cyflwyno cadarnhad presenoldeb wythnosol
  • dychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob un o'ch myfyrwyr fel 'yn bresennol' neu 'ddim yn bresennol'
  • gwneud cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gyflwyno cadarnhad presenoldeb ar wefan Gwasanaethau’r Ganolfan Ddysgu.

Adroddiad perfformiad

Cymerwch amser i wirio sut mae eich Canolfan Ddysgu yn perfformio yn erbyn y safonau gwasanaeth. Gallwch olrhain eich perfformiad mewn amser go iawn ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu. I wneud hyn, llywiwch i hafan y porth ac yna dewis 'Adroddiadau' ac yna 'Safonau gwasanaeth'.

Desg gymorth LCA a GDLlC AB

Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.

Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.

Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.

Argraffu