Bwletin ar gyfer Hydref 2026
Diweddarwyd Diwethaf: 11 Tach 2026
Ceisiadau LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am gyllid LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs os byddwn yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs.
Ar gyfer GDLlC AB, rhaid i ddysgwyr newydd wneud cais o fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs. Rhaid i ddysgwyr sy'n dychwelyd hefyd lofnodi eu cytundeb o fewn 9 mis o ddechrau eu cwrs. Gall dysgwyr ymgeisio ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Ffurflenni cais papur ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2027/28
O flwyddyn academaidd 2027/28 ni fyddwn bellach yn anfon ceisiadau papur atoch ar gyfer LCA a GDLlC. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn ceisiadau ar-lein, gyda bron i 95% o fyfyrwyr nawr yn ymgeisio am LCA a GDLlC ar-lein.
Rydych yn dal i allu lawrlwytho ffurflenni cais, Llyfr bach LCA a’r Canllaw i GDLlC o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Canllaw presenoldeb a salwch
Cadarnhau presenoldeb GDLlC a thynnu'n ôl
Nodiadau atgoffa safon gwasanaeth
- gwirio bod gwybodaeth presenoldeb eich myfyrwyr yn gywir cyn cyflwyno cadarnhad presenoldeb wythnosol
- dychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob un o'ch myfyrwyr fel 'yn bresennol' neu 'ddim yn bresennol'
- gwneud cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol
Adroddiad perfformiad
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.