Gwasanaethau Canolfannau Dysgu ar gyfer addysg bellach

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn partneru ag ysgolion a cholegau

Ein gwasanaethau

Diweddariadau pwysig ar gyfer gwasanaethau addysg bellach

LCA - Cadarnhad o bresenoldeb

Rhaid i chi gyflwyno 100% o gadarnhad presenoldeb yn wythnosol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cadarnhad presenoldeb ar gyfer pob wythnos yw 5pm y dydd Mercher canlynol. Os nad ydych yn siŵr a yw myfyriwr wedi mynychu, rhaid i chi gyflwyno Not In Attendance (Ddim yn bresennol) ar gyfer yr wythnos honno nes bod gennych gadarnhad o bresenoldeb. Rhaid i bob wythnos gael cadarnhad o In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn bresennol) neu On Holiday (Ar wyliau). Ni ddylech adael hwn yn wag.

GDLlC AB - Cadarnhad o bresenoldeb

Ni allwn ryddhau unrhyw daliadau nes eich bod wedi cadarnhau bod y myfyriwr yn bresennol yn y flwyddyn academaidd hon. Yn nhymor 1, rhaid i chi gadarnhau presenoldeb ar ôl i'r myfyriwr fod yn bresennol am 2 wythnos. Rhaid i chi hefyd gadarnhau bod y myfyriwr yn parhau i fod wedi'i gofrestru ac yn parhau i fynychu bob tymor. Mae'r rheol pythefnos yn berthnasol ar gyfer tymor 1 yn unig.