Cyhoeddwyd: 31/08/2026 · Diweddarwyd Diwethaf: 31/08/2026

Bwletin ar gyfer Awst 2026


Blwyddyn academaidd (BA) 2026/27

We need you to complete the following tasks in preparation for the new academic year.

Cytundebau Dysgu LCA Newydd

Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd yn llofnodi Cytundeb Dysgu LCA/GDLlC AB ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dyddiad cychwyn cynllun LCA/GDLlC AB ar gyfer BA 2026/27 fydd 7 Medi.

Ychwanegu manylion Cytundeb Dysgu at y porth

Mewnbynnu Cytundebau Dysgu wedi'u llofnodi i’r Porth LC. Gwnewch hyn o fewn 10 diwrnod gwaith i gais wedi'i gymeradwyo, neu 7 Medi, pa un bynnag sydd ddiweddaraf. Gallwch gadarnhau eu presenoldeb cyn 7 Medi os yw eich myfyrwyr yn dychwelyd i astudio'n gynharach ac mae ganddynt Gytundeb Dysgu wedi'i lofnodi.

Cofnodi gwyliau

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, cofiwch nodi eich gwyliau ar gyfer BA 2026/27. Mae dros 71% o Ganolfannau Dysgu eisoes wedi gwneud hyn. Mae rhagor o wybodaeth am sut i nodi eich gwyliau ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.

Dileu myfyrwyr

Dilëwch unrhyw fyfyrwyr nad ydynt bellach yn astudio gyda chi o borth blwyddyn academaidd 2026/27 cyn gynted â phosibl.

Newidiadau staff yn eich Canolfan Ddysgu

Os bu newid yn y staff sy'n gweinyddu LCA yn eich Canolfan Ddysgu, cysylltwch â mi. Gallwn drefnu sesiwn hyfforddi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Ewch hefyd i adran cynnal a chadw'r porth a therfynu unrhyw ddefnyddwyr nad oes angen mynediad iddynt mwyach.

Ceisiadau myfyrwyr

Myfyrwyr newydd

Dylai myfyrwyr wneud cais ar-lein lle bo modd, a chyn gynted â phosibl. Mae ffurflenni cais papur LCA a ffurflenni cais papur hefyd GDLlC hefyd ar gael ar wefan CMC i'w hargraffu.

I fod yn gymwys ar gyfer taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn academaidd, rhaid i fyfyrwyr wneud cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau’r cwrs. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y 13 wythnos yn dal i fod yn gymwys i gael tâl wedi ôl-ddyddio. Fodd bynnag, dim ond o'r wythnos gymhwyso y derbyniom eu ffurflen gais y bydd hyn.

Anogwch fyfyrwyr i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Myfyrwyr sy'n dychwelyd

Nid oes angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais. Yn lle hynny, mae eu cytundeb LCA/GDLlC AB blwyddyn academaidd 2026/27 wedi'i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ail-ymgeisio am gymorth am flwyddyn bellach. Ysgrifennodd Cyllid Myfyrwyr Cymru at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod y gwanwyn i roi gwybod iddynt y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu

Cofiwch fod canllawiau a deunyddiau hyrwyddo ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu. Mae yna hefyd enghraifft o Gytundeb Dysgu teg a realistig ar gael. Gall hwn fod yn ganllaw os oes angen diweddaru eich un chi. Gallwch gael mynediad at Gytundebau Dysgu a chanllawiau gwybodaeth talu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 ar y Porth LC yn yr adran lawrlwythiadau.

Cadarnhad o bresenoldeb

Dylech gadarnhau presenoldeb yr wythnos flaenorol bob wythnos cyn 5pm ar ddydd Mercher. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn talu myfyrwyr ar amser. Byddwn yn olrhain y safon gwasanaeth hon yn agos. Mae canllawiau pellach ar sut i gadarnhau presenoldeb ar wefan Gwasanaethau'r LC ar gyfer GDLlC a LCA Cymru

Desg gymorth LCA a GDLlC AB

Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system. Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.

Argraffu