Digwyddiadau

Diweddarwyd Diwethaf: 30 Mai 2024

Mae ein tîm LCA yn darparu cyfres o fforymau a digwyddiadau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb ac yn rhithiol. 

Rydym yn gwella ein rhaglen ddigwyddiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn, fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newidiadau diweddaraf i'n gwasanaethau, ein cynnyrch a'n prosesau.


Digwyddiadau sydd ar ddod

Lwfans Cynhaliaeth Addysg / Fforymau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, Gwanwyn 2027 - Cymru

Bydd ein Fforymau LCA / GDLlC yn rhoi cyfle i glywed y diweddariadau rhaglen diweddaraf a datblygiadau ehangach ar draws y sector. Bydd y sesiynau hefyd yn rhoi’r cyfle i ganolfannau dysgu rannu mewnwelediadau ar bob maes o’r ganolfan ddysgu a phartneriaeth SLC. Bydd y fforymau’n canolbwyntio ar:

  • Rheoli perfformiad LCA / GDLlC, gan gynnwys cyfleoedd i drafod arfer gorau yn unol â’n safonau gwasanaeth
  • Rhannu profiadau ac ystyried materion pwysig ar draws y sector
  • Cyfleoedd i ganolfannau dysgu holi cwestiynau a dysgu oddi wrth ei gilydd

Digwyddiadau yn y gorffennol

Mae ein rhaglen 2026 o Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB wedi'i chwblhau. Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad a chwestiynau ac atebion isod.

Sleidiau Fforwm Adolygiad Gwasanaeth 2026 LCA Cymru

Cwestiynau ac atebion - Fforymau Adolygu Gwasanaethau Cymru 2026

Mae ein rhaglen 2025 o Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB wedi'i chwblhau. Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad a chwestiynau ac atebion isod.

Sleidiau Fforwm Adolygiad Gwasanaeth 2025 LCA Cymru

Cwestiynau ac atebion - Fforymau Adolygu Gwasanaethau Cymru 2025

Mae ein rhaglen 2024 o Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB wedi'i chwblhau. Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad a chwestiynau ac atebion isod.

Sleidiau Fforwm Adolygiad Gwasanaeth 2024 LCA Cymru

Cwestiynau ac atebion - Fforymau Adolygu Gwasanaethau Cymru 2024