Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chw 2023
Cytundebau Dysgu LCA
Cynnwys y Cytundeb Dysgu LCA
Mae Cytundeb Dysgu LCA yn nodi cyfrifoldebau'r myfyriwr a'r Ganolfan Ddysgu. Dylai ddiffinio'n glir:
- presenoldeb derbyniol ar gyfer y cwrs
- yr hyn a ddisgwylir gan y myfyriwr
- rôl y Ganolfan Ddysgu
Pan fydd myfyrwyr yn llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA, maent yn ymrwymo i'r meini prawf presenoldeb y mae eu Canolfan Ddysgu wedi'u gosod, yn gyfnewid am daliad LCA wythnosol.
Dylai’r Cytundeb Dysgu LCA gadarnhau’r canlynol fel isafswm:
- bod y myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs dilys
- bod y myfyriwr wedi cael gwybod yn iawn sut mae ei Ganolfan Ddysgu yn gweinyddu'r cynllun LCA
Dylai Cytundeb Dysgu LCA fod yn:
- realistig
- addasadwy i anghenion unigol
- clir a diamwys
- heb fod yn gysylltiedig â graddau penodol
Mae taliadau wythnosol LCA yn gysylltiedig â phresenoldeb mewn gwersi ar amserlen. Ni ddylai cytundeb dysgu LCA gynnwys presenoldeb wrth gofrestru na hwyrni fel rhan o'r meini prawf ar gyfer taliadau wythnosol. Dylai unrhyw broblemau gyda'r rhain gael eu datrys gan eich polisi presennol ar gyfer myfyrwyr, fel gyda myfyrwyr nad ydynt yn LCA.
Mae templed Cytundeb Dysgu LCA yn cynnwys cwestiwn i nodi dewis iaith y myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Dylech ddethol y dewis iaith cywir pan fyddwch yn cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu bod y Cytundeb Dysgu LCA wedi'i lofnodi.
Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb LCA sydd ar gael ar dab Downloads (Lawrlwythiadau) Porth y Ganolfan Ddysgu.
Argraffwch y bennod hon