Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chw 2023
Cyflwyniad
Beth yw'r cynllun LCA?
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn darparu cymorth ariannol i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n parhau â'u haddysg mewn ysgolion cydnabyddedig neu golegau addysg bellach. Mae'n lwfans wythnosol prawf modd, seiliedig ar bresenoldeb, a delir bob 2 wythnos.
Mae LCA yn gontract 'rhywbeth am rywbeth' lle gall myfyrwyr cymwys dderbyn eu lwfans wythnosol drwy fynychu'n llawn. Mae hyn yn golygu bod angen i fyfyrwyr fynychu 100% o'r gwersi yn eu hamserlen oni bai eu bod ar absenoldeb awdurdodedig.
Mae'r nodiadau canllaw hyn yn rhesymegol yn dilyn camau'r cynllun LCA, o'r cais i'r taliad. Byddant yn rhoi syniad clir i Ganolfannau Dysgu cydnabyddedig o sut mae'r cynllun yn gweithio a sut mae eich rôl bwysig yn cyd-fynd â'r prosesau cyffredinol. Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu.
Argraffwch y bennod hon