Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Cytundebau Dysgu LCA
Cynnwys y Cytundeb Dysgu LCA
Mae Cytundeb Dysgu LCA yn nodi cyfrifoldebau'r myfyriwr a'r Ganolfan Ddysgu. Dylai ddiffinio'n glir:
- presenoldeb derbyniol ar gyfer y cwrs
- yr hyn a ddisgwylir gan y myfyriwr
- rôl y Ganolfan Ddysgu
Pan fydd myfyrwyr yn llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA, maent yn ymrwymo i'r meini prawf presenoldeb y mae eu Canolfan Ddysgu wedi'u gosod, yn gyfnewid am daliad LCA wythnosol.
Dylai’r Cytundeb Dysgu LCA gadarnhau’r canlynol fel isafswm:
- bod y myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs dilys
- bod y myfyriwr wedi cael gwybod yn iawn sut mae ei Ganolfan Ddysgu yn gweinyddu'r cynllun LCA
Dylai Cytundeb Dysgu LCA fod yn:
- realistig
- addasadwy i anghenion unigol
- clir a diamwys
- heb fod yn gysylltiedig â graddau penodol
Mae templed Cytundeb Dysgu LCA yn cynnwys cwestiwn i nodi dewis iaith y myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Dylech ddethol y dewis iaith cywir pan fyddwch yn cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu bod y Cytundeb Dysgu LCA wedi'i lofnodi.
Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb LCA sydd ar gael ar dab Downloads (Lawrlwythiadau) Porth y Ganolfan Ddysgu.
Argraffwch y bennod hon