Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Rhestrau gwaith

Dileu ac adfer myfyrwyr


Gallwch ddefnyddio'r tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i:

  • ddileu myfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
  • adfer myfyrwyr sydd wedi dychwelyd

Unwaith y byddwch wedi dileu myfyriwr, ni fydd angen i chi gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA na’i bresenoldeb. Ni ddylech ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb Dysgu LCA gweithredol.


Dileu myfyrwyr

  1. Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a rhedwch chwiliad i ganfod y myfyrwyr rydych chi am eu dileu.

  2. Yn y canlyniadau chwilio, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae angen i chi eu tynnu. Bydd hyn yn actifadu'r botwm Remove (Dileu).

  3. Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn ichi gadarnhau'r rhai i’w dileu.

  4. Dewiswch Confirm (Cadarnhau) i ddileu'r myfyrwyr a ddewiswyd neu Cancel (Canslo) i ddychwelyd i'r wedd flaenorol.


Adfer myfyrwyr

  1. Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).

  2. Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).

  3. Dewiswch Search (Chwilio) i weld rhestr o geisiadau sydd wedi'u dileu.

  4. Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol yn y canlyniadau chwilio i agor manylion ei gais.

  5. Dewiswch Restore (Adfer) a bydd y system yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich rhestr arferol o geisiadau.


Er enghraifft, gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os penderfynodd myfyriwr yn wreiddiol adael eich Canolfan Ddysgu i chwilio am waith ond yna penderfynodd ddychwelyd.

Unwaith y byddwch wedi adfer cais y myfyriwr, gallwch barhau i gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA a’i bresenoldeb yn ôl yr angen.

Os ceisiwch adael y sgrin hon heb gadw eich gwaith yn gyntaf, bydd y system yn dangos neges rhybudd i chi.


Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig