Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Dileu ac adfer myfyrwyr
Gallwch ddefnyddio'r tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i:
- ddileu myfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
- adfer myfyrwyr sydd wedi dychwelyd
Unwaith y byddwch wedi dileu myfyriwr, ni fydd angen i chi gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA na’i bresenoldeb. Ni ddylech ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb Dysgu LCA gweithredol.
Dileu myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a rhedwch chwiliad i ganfod y myfyrwyr rydych chi am eu dileu.
- Yn y canlyniadau chwilio, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae angen i chi eu tynnu. Bydd hyn yn actifadu'r botwm Remove (Dileu).
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn ichi gadarnhau'r rhai i’w dileu.
- Dewiswch Confirm (Cadarnhau) i ddileu'r myfyrwyr a ddewiswyd neu Cancel (Canslo) i ddychwelyd i'r wedd flaenorol.
Adfer myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).
- Dewiswch Search (Chwilio) i weld rhestr o geisiadau sydd wedi'u dileu.
- Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol yn y canlyniadau chwilio i agor manylion ei gais.
- Dewiswch Restore (Adfer) a bydd y system yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich rhestr arferol o geisiadau.
Er enghraifft, gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os penderfynodd myfyriwr yn wreiddiol adael eich Canolfan Ddysgu i chwilio am waith ond yna penderfynodd ddychwelyd.
Unwaith y byddwch wedi adfer cais y myfyriwr, gallwch barhau i gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA a’i bresenoldeb yn ôl yr angen.
Os ceisiwch adael y sgrin hon heb gadw eich gwaith yn gyntaf, bydd y system yn dangos neges rhybudd i chi.