Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Cynnal a chadw
Tab Holidays (Gwyliau)
Os yw eich Canolfan Ddysgu ar gau i fyfyrwyr am 4 diwrnod neu fwy yn ystod wythnos, mae hyn yn cael ei gyfrif fel wythnos wyliau. Rhaid i chi nodi eich wythnosau gwyliau ar y tab Holidays (Gwyliau) ar y Porth Canolfannau Dysgu.
Mae angen i chi gael mynediad EMA Administrator (Gweinyddwr LCA) i ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau).
Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai. Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd.
Sut i gofnodi eich gwyliau
- Ewch i adran Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Holidays (Gwyliau).
- Dewiswch y flwyddyn gywir yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Dewiswch y blwch ticio Holiday (Gwyliau) ar gyfer pob wythnos sy'n wythnos wyliau.
- Dewiswch Save (Cadw).
Ni allwch gofnodi wythnosau gwyliau ar gyfer grwpiau mwyach. Rydym wedi disodli’r opsiwn hwn gyda’r flwyddyn academaidd yn unig. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae angen i chi ddiweddaru gwyliau.
Gallwch ddiystyru'r gofyniad lleiaf o 8 wythnos o wyliau ar lefel myfyriwr os oes eithriadau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr y mae eu cwrs yn cynnwys lleoliadau yn ystod gwyliau.
Cadarnhad gwyliau ôl-weithredol
Ni waeth pryd y caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo, bydd y system yn cymhwyso cadarnhad gwyliau yn ôl-weithredol.
Os caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo erbyn y dyddiad cau ôl-ddyddio (13 wythnos o ddyddiad cychwyn y cwrs), bydd y system yn cadarnhau ei fod 'ar wyliau' yn awtomatig yn ystod wythnosau gwyliau eich Canolfan Ddysgu. Ni fydd angen i chi nodi cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnosau hynny.
Argraffwch y bennod hon