Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Cynnal a chadw

Tab Holidays (Gwyliau)


Os yw eich Canolfan Ddysgu ar gau i fyfyrwyr am 4 diwrnod neu fwy yn ystod wythnos, mae hyn yn cael ei gyfrif fel wythnos wyliau. Rhaid i chi nodi eich wythnosau gwyliau ar y tab Holidays (Gwyliau) ar y Porth Canolfannau Dysgu.

Mae angen i chi gael mynediad EMA Administrator (Gweinyddwr LCA) i ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau).

Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai. Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd.


Sut i gofnodi eich gwyliau

  1. Ewch i adran Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Holidays (Gwyliau).

  2. Dewiswch y flwyddyn gywir yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).

  3. Dewiswch y blwch ticio Holiday (Gwyliau) ar gyfer pob wythnos sy'n wythnos wyliau.

  4. Dewiswch Save (Cadw).

Ni allwch gofnodi wythnosau gwyliau ar gyfer grwpiau mwyach. Rydym wedi disodli’r opsiwn hwn gyda’r flwyddyn academaidd yn unig. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae angen i chi ddiweddaru gwyliau.

Gallwch ddiystyru'r gofyniad lleiaf o 8 wythnos o wyliau ar lefel myfyriwr os oes eithriadau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr y mae eu cwrs yn cynnwys lleoliadau yn ystod gwyliau.


Cadarnhad gwyliau ôl-weithredol 

Ni waeth pryd y caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo, bydd y system yn cymhwyso cadarnhad gwyliau yn ôl-weithredol.

Os caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo erbyn y dyddiad cau ôl-ddyddio (13 wythnos o ddyddiad cychwyn y cwrs), bydd y system yn cadarnhau ei fod 'ar wyliau' yn awtomatig yn ystod wythnosau gwyliau eich Canolfan Ddysgu. Ni fydd angen i chi nodi cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnosau hynny.