Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Chwiliad cwsmeriaid

Tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb)


Gallwch ddefnyddio’r tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) i brosesu cadarnhad presenoldeb wythnosol myfyriwr unigol. Gallwch hefyd weld eu hanes presenoldeb ar gyfer yr wythnosau blaenorol.


Sut i gadarnhau presenoldeb

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) o'r bar dewislen a rhedwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.

  3. Agorwch y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).

  4. Dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer yr wythnos berthnasol.

  5. Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid sy'n cadarnhau bod eich gwaith wedi'i gadw.

Os byddwch yn cadarnhau bod myfyriwr yn bresennol yn ystod wythnos wyliau, bydd angen i chi nodi nodyn presenoldeb. Bydd hyn yn dweud wrthym pam y dylai'r myfyriwr dderbyn LCA am yr wythnos honno. Y dewisiadau yw:

  • summer course (cwrs haf)
  • work experience (profiad gwaith)
  • study class (dosbarth astudio)
  • Prince’s Trust (Ymddiriedolaeth y Tywysog)
  • other (arall)

Os dewiswch other (arall), bydd angen i chi gynnwys nodyn i ddweud wrthym pam fod y myfyriwr yn bresennol.


Cadarnhad SLC

Efallai y byddwch yn gweld SLC yn achlysurol yn y golofn Confirmed by (Cadarnhawyd gan) yn y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).

Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwneud y cadarnhad ac ni allwch ei ddiystyru ar y porth.

Os oes angen i chi ei newid, bydd angen i chi gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid a all wneud hyn ar eich rhan.


Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig