Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad cwsmeriaid
Tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb)
Gallwch ddefnyddio’r tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) i brosesu cadarnhad presenoldeb wythnosol myfyriwr unigol. Gallwch hefyd weld eu hanes presenoldeb ar gyfer yr wythnosau blaenorol.
Sut i gadarnhau presenoldeb
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) o'r bar dewislen a rhedwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.
- Agorwch y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).
- Dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer yr wythnos berthnasol.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid sy'n cadarnhau bod eich gwaith wedi'i gadw.
Os byddwch yn cadarnhau bod myfyriwr yn bresennol yn ystod wythnos wyliau, bydd angen i chi nodi nodyn presenoldeb. Bydd hyn yn dweud wrthym pam y dylai'r myfyriwr dderbyn LCA am yr wythnos honno. Y dewisiadau yw:
- summer course (cwrs haf)
- work experience (profiad gwaith)
- study class (dosbarth astudio)
- Prince’s Trust (Ymddiriedolaeth y Tywysog)
- other (arall)
Os dewiswch other (arall), bydd angen i chi gynnwys nodyn i ddweud wrthym pam fod y myfyriwr yn bresennol.
Cadarnhad SLC
Efallai y byddwch yn gweld SLC yn achlysurol yn y golofn Confirmed by (Cadarnhawyd gan) yn y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).
Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwneud y cadarnhad ac ni allwch ei ddiystyru ar y porth.
Os oes angen i chi ei newid, bydd angen i chi gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid a all wneud hyn ar eich rhan.