Safonau gwasanaeth ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth Cymru AB
Cadarnhau Cytundeb Dysgu GDLlC AB
Ar gyfer myfyrwyr newydd, rhaid i chi gadarnhau 100% o Gytundebau Dysgu GDLlC AB o fewn 10 diwrnod gwaith i gymeradwyo'r cais, neu ddyddiad cychwyn y GDLlC AB, pa un bynnag sydd hwyrach (2il ddydd Llun ym Medi).
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, rhaid i chi gadarnhau 100% o Gytundebau Dysgu GDLlC AB o fewn 10 diwrnod gwaith o wythnos lawn gyntaf y flwyddyn academaidd.
Byddwn yn cysylltu â chi bob blwyddyn, fel arfer ym mis Awst, i ddweud wrthych beth yw dyddiad dechrau y flwyddyn academaidd GDLlC AB.
Cadarnhad o bresenoldeb
Rhaid i chi gyflwyno 100% o gadarnhad presenoldeb ym mis Rhagfyr, Mawrth a Mehefin, a 50% o gadarnhad presenoldeb ym mis Hydref, Chwefror a Mai.
Hysbysiad o newidiadau
Rhaid i chi gyflwyno 100% o hysbysiadau o newidiadau o fewn 10 diwrnod gwaith i'r newid ddigwydd.
Dileu Cytundebau Dysgu GDLlC AB sydd heb eu cyflawni
Os nad yw myfyrwyr yn dychwelyd, rhaid i chi eu tynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu erbyn wythnos lawn gyntaf y flwyddyn academaidd.
Byddwn yn cysylltu â chi bob blwyddyn, fel arfer ym mis Awst, i ddweud wrthych beth yw dyddiad dechrau y flwyddyn academaidd GDLlC AB.
Tynnu'n ôl
Rhaid i chi gyflwyno 100% o'r myfyrwyr sydd wedi tynnu'n ôl o fewn 30 diwrnod gwaith.
Safonau gwasanaeth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Prosesu ceisiadau a hysbysiadau hawl
Yn ystod cyfnodau brig, rhaid i ni asesu 90% o geisiadau o fewn 14 diwrnod a 100% o fewn 21 diwrnod.
Yn ystod cyfnodau allfrig, rhaid i ni asesu 100% o geisiadau o fewn 7 diwrnod.
Pan fyddwn yn derbyn cais wedi'i gwblhau, rhaid i ni roi hysbysiad o hawl i'r myfyriwr.
Taliadau tymhorol i fyfyrwyr
Rhaid inni wneud taliadau i fyfyrwyr sydd â chadarnhad presenoldeb cadarnhaol bob tymor.
Ymholiadau darparwyr addysg bellach i'n Desg Gymorth Partneriaid
Yn ystod cyfnodau brig, rhaid i ni ateb 98% o e-byst o fewn 10 diwrnod ac 80% o alwadau ffôn o fewn 180 eiliad. Rhaid i gyfradd y galwadau sy'n cael eu gadael fod yn is na 10%.
Yn ystod cyfnodau allfrig, rhaid i ni ateb 98% o e-byst o fewn 4 diwrnod ac 90% o alwadau ffôn o fewn 120 eiliad. Rhaid i gyfradd y galwadau sy'n cael eu gadael fod yn is na 5%.
Rhaid i'r cywirdeb fod yn 95% fel y nodir trwy wiriadau ansawdd.
Gweld y safonau gwasanaeth GDLlC AB
Diffiniad gwasanaeth
Mae diffiniad y gwasanaeth yn esbonio beth allwch chi ei wneud ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu. Mae hefyd yn diffinio ein rolau a'n cyfrifoldebau, yn ogystal â'ch un chi.
Gweld y diffiniad gwasanaeth GDLlC AB
Argraffu