Cyhoeddwyd: 2/06/2025 · Diweddarwyd Diwethaf: 2/06/2025
Mae Porth y Ganolfan Ddysgu a’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB bellach ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Mae Porth y Ganolfan Ddysgu GDLlC AB a gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB nawr ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Dylai hyn wneud y daith ymgeisio yn haws ac arwain at gadarnhad cyflymach o ddyfarniad i fyfyrwyr.
Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth GDLlC AB ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rydym wedi darparu posteri ‘Ymgeisiwch Nawr’ i chi eu harddangos mewn mannau lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae'r rhain yn cynnwys cod QR, sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr wneud cais. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.
Gall eich myfyrwyr hefyd lawrlwytho ffurflenni cais a chanllawiau GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y GDLlC AB fydd dydd Llun 8 Medi 2025. Byddwn yn cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu o hynny ymlaen.
Mae ffurflenni cytundeb dysgu GDLlC AB a chanllawiau talu ar gael ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Rhowch wybod i fyfyrwyr am y cyfraddau newydd i'w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eu hastudiaethau.
Cyfraddau newydd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau ar gyfer BA 2025/26
Incwm blynyddol y cartref | Rhan-amser (275 – 499 awr gyswllt) | Llawn-amser (500+ awr gyswllt) |
Up to £6,120 | £959 | £1,919 |
£6,121 – £12,235 | £576 | £959 |
£12,236 – £18,370 | £384 | £576 |
£18,371 and above | £0 | £0 |
Mae gan y ffurflen gais ar-lein a'r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho y cyfraddau newydd. Bydd gan unrhyw ffurflenni printiedig yr ydym eisoes wedi'u hanfon atoch yr hen gyfraddau. Pan fyddwn yn prosesu’r ffurflenni hyn, byddwn yn eu hasesu gan ddefnyddio'r cyfraddau newydd.
Argraffu