Mae Porth y Ganolfan Ddysgu a’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB bellach ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Diweddarwyd Diwethaf: 02 Meh 2025

Mae Porth y Ganolfan Ddysgu GDLlC AB a gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB nawr ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Dylai hyn wneud y daith ymgeisio yn haws ac arwain at gadarnhad cyflymach o ddyfarniad i fyfyrwyr. 

Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth GDLlC AB ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rydym wedi darparu posteri ‘Ymgeisiwch Nawr’ i chi eu harddangos mewn mannau lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae'r rhain yn cynnwys cod QR, sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr wneud cais. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC

Gall eich myfyrwyr hefyd lawrlwytho ffurflenni cais a chanllawiau GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru

Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y GDLlC AB fydd dydd Llun 8 Medi 2025. Byddwn yn cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu o hynny ymlaen. 

Mae ffurflenni cytundeb dysgu GDLlC AB a chanllawiau talu ar gael ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Rhowch wybod i fyfyrwyr am y cyfraddau newydd i'w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eu hastudiaethau.

Cyfraddau newydd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau ar gyfer BA 2025/26

Incwm blynyddol y cartref Rhan-amser (275 – 499 awr gyswllt) Llawn-amser (500+ awr gyswllt)
Up to £6,120 £959 £1,919
£6,121 – £12,235 £576 £959
£12,236 – £18,370 £384 £576
£18,371 and above £0 £0

Mae gan y ffurflen gais ar-lein a'r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho y cyfraddau newydd. Bydd gan unrhyw ffurflenni printiedig yr ydym eisoes wedi'u hanfon atoch yr hen gyfraddau. Pan fyddwn yn prosesu’r ffurflenni hyn, byddwn yn eu hasesu gan ddefnyddio'r cyfraddau newydd.