Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Dynodiad cwrs
Mae Canolfannau Dysgu yn gyfrifol am gymeradwyo neu wrthod ceisiadau GDLlC AB yn seiliedig ar lefel y cwrs y mae’r myfyrwyr arno.
Dylech wrthod unrhyw geisiadau gan fyfyrwyr ar gyrsiau lefel 4 neu uwch.
Dylech hefyd wrthod unrhyw gais nad yw'n dangos dilyniant o flwyddyn flaenorol. Ni fydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer GDLlC AB os ydynt wedi derbyn cymorth GDLlC AB yn flaenorol i fynychu cwrs ar yr un lefel neu lefel uwch.
I wrthod cais, ewch i'r tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs), dod o hyd i'r botwm radio Course Designated (Cwrs Dynodedig) a dewis No (Na).
Nid yw'r rhestr o gymwysterau ar y Porth Canolfannau Dysgu bellach yn cynnwys 'other' ('arall'). Yn lle hynny, rhaid i chi fapio eich rhaglenni cwrs trwy'r fframwaith cymwysterau i gael mynediad i'r cyrsiau ar y lefel gywir.
Rydym hefyd wedi lleihau'r rhestr o opsiynau cymhwyster penodol. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond lefelau sydd â chyllid ynghlwm wrthynt y gallwch eu dewis.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i fapio cymwysterau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dim ond cyrsiau addysg bellach sy'n ddilys ar gyfer cymorth GDLlC AB. Rhaid i gyrsiau arwain at gymwysterau cydnabyddedig hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3. Nid yw cyrsiau addysg uwch ar lefel 4 ac uwch yn gymwys.
Mathau o gyrsiau cymwys
Lefel Mynediad:
- paratoi ar gyfer cymwysterau lefel 1
- Ymgysylltiad Hyfforddeiaeth
Lefel sylfaen 1:
- BTEC lefel 1
- NVQ lefel 1
- Hyfforddeiaeth lefel 1
- City & Guilds lefel 1
- VRQ lefel 1
Lefel ganolradd 2:
- BTEC lefel 2
- NVQ lefel 2
- TGAU
- City & Guilds lefel 2
- VRQ lefel 2
Lefel uwch 3:
- Safon Uwch
- Mynediad at Addysg Uwch
- BTEC lefel 3
- NVQ lefel 3
- VRQ lefel 2
Argraffwch y bennod hon