Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Chwiliad Cwsmeriaid

Dynodiad cwrs


Mae Canolfannau Dysgu yn gyfrifol am gymeradwyo neu wrthod ceisiadau GDLlC AB yn seiliedig ar lefel y cwrs y mae’r myfyrwyr arno.

Dylech wrthod unrhyw geisiadau gan fyfyrwyr ar gyrsiau lefel 4 neu uwch.

Dylech hefyd wrthod unrhyw gais nad yw'n dangos dilyniant o flwyddyn flaenorol.  Ni fydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer GDLlC AB os ydynt wedi derbyn cymorth GDLlC AB yn flaenorol i fynychu cwrs ar yr un lefel neu lefel uwch. 

I wrthod cais, ewch i'r tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs), dod o hyd i'r botwm radio Course Designated (Cwrs Dynodedig) a dewis No (Na).

Nid yw'r rhestr o gymwysterau ar y Porth Canolfannau Dysgu bellach yn cynnwys 'other' ('arall'). Yn lle hynny, rhaid i chi fapio eich rhaglenni cwrs trwy'r fframwaith cymwysterau i gael mynediad i'r cyrsiau ar y lefel gywir.

Rydym hefyd wedi lleihau'r rhestr o opsiynau cymhwyster penodol. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond lefelau sydd â chyllid ynghlwm wrthynt y gallwch eu dewis.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i fapio cymwysterau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dim ond cyrsiau addysg bellach sy'n ddilys ar gyfer cymorth GDLlC AB. Rhaid i gyrsiau arwain at gymwysterau cydnabyddedig hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3. Nid yw cyrsiau addysg uwch ar lefel 4 ac uwch yn gymwys.


Mathau o gyrsiau cymwys

Lefel Mynediad:

  • paratoi ar gyfer cymwysterau lefel 1
  • Ymgysylltiad Hyfforddeiaeth

Lefel sylfaen 1:

  • BTEC lefel 1
  • NVQ lefel 1
  • Hyfforddeiaeth lefel 1
  • City & Guilds lefel 1
  • VRQ lefel 1

Lefel ganolradd 2:

  • BTEC lefel 2
  • NVQ lefel 2
  • TGAU
  • City & Guilds lefel 2
  • VRQ lefel 2

Lefel uwch 3:

  • Safon Uwch
  • Mynediad at Addysg Uwch
  • BTEC lefel 3
  • NVQ lefel 3
  • VRQ lefel 2