Telerau defnyddio
Dylech ddarllen y telerau ac amodau hyn cyn defnyddio'r wefan hon mewn unrhyw ffordd.
Pwysig
Drwy gyrchu’r wefan hon, ystyrir eich bod wedi darllen a derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn. Os na fyddwch yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn rhaid i chi adael y wefan ar unwaith ac ni chewch wneud unrhyw ddefnydd pellach o’r wefan.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn penderfynu, yn ôl ein disgresiwn llwyr, a dorrwyd y telerau ac amodau hyn drwy eich defnydd o'n gwefan. Lle mae toriad wedi digwydd mae'n bosibl y byddwn yn cymryd unrhyw gamau sy'n briodol yn ein barn ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y taliad, ad-dalu benthyciadau myfyrwyr neu unrhyw rai o'r cynhyrchion eraill a weinyddir gan SLC, cyfeiriwch at y rhan briodol o'r wefan hon neu cyfeiriwch at y wefan sy'n berthnasol i'r cynnyrch hwnnw.
Manylion y cwmni
Gweithredir y wefan hon gan SLC. Mae SLC yn eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth y DU ac mae’n gweithredu o fewn y cyd-destun polisi a osodwyd gan Lywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban a’r fframwaith deddfwriaethol.
Swyddfa gofrestredig y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig
The Memphis Building
Lingfield Point
McMullen Road
Darlington
Co Durham
DL1 1RW
Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 2401034
Rhif cofrestru TAW. 556 4352 32
Mae manylion swyddogaethau SLC i'w gweld mewn man arall ar y wefan hon. Mae gan SLC swyddfeydd yn:
Pencadlys
Student Loans Company Limited
100 Bothwell Street
Glasgow
G2 7JD
Swyddfa Hillington
Student Loans Company Limited
11 Carnegie Road
Glasgow
G52 4JT
Swyddfa Cyffordd Llandudno
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9RZ
Defnyddiau gwaharddedig
Dim ond at ddibenion cyfreithlon y cewch ddefnyddio ein gwefan.
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan:
- Mewn unrhyw ffordd sy'n torri neu'n debygol o dorri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol cymwys.
- Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben, bwriad neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
- I anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd nad yw'n cydymffurfio â'n safonau cynnwys.
- I drosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd wedi’u dylunio i effeithio’n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd cyfrifiadurol neu galedwedd.
Rydych hefyd yn cytuno:
- Peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o'n gwefan yn groes i'r telerau ac amodau hyn.
- Peidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd â, difrodi neu amharu ar unrhyw ran o'n gwefan, unrhyw offer neu rwydwaith y mae ein gwefan yn cael ei storio arno, unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu ein gwefan, neu unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo neu'n cael ei ddefnyddio gan unrhyw drydydd parti.
- Peidio â cheisio defnyddio lled band gormodol a allai fod yn ymosodiad gwrthod gwasanaeth.
Polisi preifatrwydd
Pwrpas y Polisi Preifatrwydd hwn yw rhoi manylion i chi, y defnyddiwr, ynghylch sut y bydd SLC yn casglu ac yn defnyddio’r data personol y byddwch yn ei gyflenwi i SLC. Bydd SLC yn gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth sydd mewn grym o ran prosesu data personol, ac ef yw rheolydd data’r data personol a ddarperir gennych chi. Wrth ddefnyddio'r wefan hon, gallwch ddarparu data personol penodol i SLC, ac fe gesglir data penodol amdanoch gan gwcis. Ffeiliau rhyngrwyd dros dro yw cwcis a chânt eu defnyddio gan SLC i wneud y wefan hon yn haws ei defnyddio, ac i alluogi SLC i adeiladu proffil mwy manwl ohonoch. I gael rhagor o fanylion am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, pwy sy’n gyfrifol amdani a’r hawliau sydd gennych mewn cysylltiad â hi, cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Defnyddio a storio data personol
Bydd SLC ond yn defnyddio eich data personol at ddibenion
- cyflawni contract gyda chi wrth weinyddu eich cais am fenthyciad;
- darparu gwasanaethau i chi; a
- dod â manylion i chi am wasanaethau eraill y mae'n credu a allai fod o ddiddordeb i chi.
Ni fydd SLC yn cyflenwi, trosglwyddo, gwerthu neu fel arall yn darparu eich data personol i unrhyw drydydd parti ac eithrio lle mae hynny'n ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith. Os byddwch yn darganfod bod SLC yn cadw data personol sy'n ymwneud â chi sy'n anghywir, rhowch wybod i SLC cyn gynted â phosibl. Bydd SLC wedyn yn cywiro ei gofnodion, ac yn hysbysu unrhyw drydydd parti y gallai data personol o’r fath fod wedi’i gyflenwi iddynt yn unol â’r paragraff blaenorol.
Hawlfraint
Mae'r wefan hon a'r cynnwys cysylltiedig yn © Hawlfraint llwyr i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Cedwir pob hawl.
Mae'r holl eiddo deallusol a hawlfraint yn nyluniad a chynllun y wefan hon a'r deunydd a'r wybodaeth a gyhoeddir ar ei thudalennau wedi'u breinio yn SLC. Ni chewch gopïo unrhyw ran o’r wefan na gwneud unrhyw weithred arall mewn perthynas ag unrhyw ran o’r wefan a waherddir gan hawlfraint ac eithrio’r canlynol:
- cewch argraffu neu lawrlwytho unrhyw dudalen i ddisg galed leol at eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig;
- mewn deunydd a roddir i drydydd parti gallwch ddyfynnu o'r wefan ar yr amod eich bod yn rhoi achrediad dyledus i'r awdur ac i SLC; a
- nodi bod dogfennau neu wybodaeth arall sy’n cael eu hargraffu neu eu llwytho i lawr i ddisg galed leol o’r wefan yn dod yn ‘ddireolaeth’ yn awtomatig ar unwaith y cânt eu hargraffu neu eu llwytho i lawr. Yr unig fersiynau ‘rheoledig’ h.y. ‘cyfredol’) yw’r rhai ar y wefan.
Dylid cyfeirio caniatâd i ddefnyddio neu atgynhyrchu unrhyw ran o'r deunydd hwn mewn unrhyw fodd heblaw'r hyn a restrir uchod at SLC. Rhaid i chi beidio ag addasu copïau papur o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi'u hargraffu neu eu llwytho i lawr oni bai eich bod wedi'ch awdurdodi i wneud hynny gan SLC er y gallwch wneud anodiadau neu nodiadau ar gopïau papur rydych wedi'u hargraffu at eich defnydd eich hun.
Polisi cysylltu
Bydd rhai dolenni yn y wefan hon yn arwain at wefannau nad ydynt o dan reolaeth SLC. Pan fyddwch yn actifadu'r rhain byddwch yn gadael y wefan hon. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â deunyddiau, cynhyrchion neu wasanaethau sydd ar gael ar unrhyw wefan nad yw o dan reolaeth SLC. Mae SLC yn darparu'r dolenni hyn i chi er hwylustod yn unig, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn awgrymu bod SLC yn cymeradwyo'r wefan.
Gallwch greu dolen i'n gwefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â sefydlu dolen yn y fath fodd ag i sefydlu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.
Ymwadiad
Mae'r deunydd a'r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni ddylech ddibynnu ar y deunydd neu'r wybodaeth ar y wefan fel sail i wneud unrhyw benderfyniadau busnes, cyfreithiol neu unrhyw benderfyniadau eraill. Er ein bod yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid yw SLC yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath, wedi'u mynegi neu eu hawgrymu ynghylch cyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â'r wefan neu'r wybodaeth, y cynhyrchion, y gwasanaethau neu'r graffeg cysylltiedig a gynhwysir ar y wefan at unrhyw ddiben. Mae unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar ddeunydd o'r fath felly ar eich menter eich hun.
I'r graddau nad yw wedi'i wahardd gan y gyfraith, ni fydd SLC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod am golli busnes neu golli elw a cholledion canlyniadol), sy'n codi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o’ch defnydd o, neu anallu i ddefnyddio, y wefan hon neu unrhyw ran o’r deunydd a gynhwysir ynddi ac mae SLC yn eithrio’n benodol yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall fod yn oblygedig gan statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.
Nid yw SLC yn atebol am gynnwys, dibynadwyedd nac argaeledd unrhyw wefannau allanol a restrir, ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo unrhyw farn neu wasanaethau a grybwyllir ynddynt. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros y rhyngrwyd ac nid yw'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ymyrraeth gwasanaeth neu drosglwyddiad firysau neu god cyfrifiadurol maleisus arall trwy'r wefan hon. Nid yw SLC yn gwarantu y bydd y wefan hon, nac unrhyw ran ohoni, ar gael i’w chyrchu ar unrhyw adeg neu adegau penodol.
Cyfrineiriau
Chi sy'n gyfrifol am gadw eich manylion mewngofnodi ar-lein yn gyfrinachol. Gofynnwn ichi beidio â rhannu eich manylion mewngofnodi ag unrhyw un.
Indemniad
Rydych yn cytuno i indemnio ac i gadw SLC wedi’i indemnio ar gyfer ac yn erbyn unrhyw gostau, hawliadau, galwadau, treuliau a rhwymedigaethau a ddioddefir gan SLC sy’n deillio o neu sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’ch mynediad i a/neu ddefnydd o’r wefan.
Cyfraith ac awdurdodaeth berthnasol
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a byddant yn cael eu dehongli yn unol â Llysoedd yr Alban. Bydd gan Lysoedd yr Alban awdurdodaeth anghyfyngedig i setlo unrhyw hawliad neu anghydfod a allai godi o, neu mewn cysylltiad â’r telerau ac amodau hyn, er ein bod yn cadw’r hawl i ddwyn achos yn eich erbyn am dorri’r amodau hyn yn eich gwlad breswyl neu wlad berthnasol arall.
Newidiadau i delerau ac amodau
Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy bostio diwygiadau ar y wefan, ym mhob achos o'r dyddiad y caiff y diwygiad ei bostio ar y wefan. Dylech wirio'r wefan o bryd i'w gilydd i adolygu'r telerau ac amodau presennol. Ystyrir bod eich defnydd parhaus o'r wefan yn dynodi eich bod yn derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.