Cyhoeddwyd: 24/09/2024 · Diweddarwyd Diwethaf: 24/09/2024
Ceisiadau LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 - Gwasanaeth ar-lein ar gael ar nawr
Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein am LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 nawr ar gael.
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i fyfyrwyr ymgeisio yma.
Mae gwneud cais ar-lein yn hawdd ac yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym, felly anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd.
Er mwyn helpu hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein, rydym wedi creu posteri y gallwch eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae’r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho ac argraffu o’r wefan Gwasanaethau LC.
Rhaid i fyfyrwyr newydd wneud cais o fewn 13 wythnos i gychwyn eu cwrs i fod yn gymwys i gael taliadau wedi’u hôl-ddyddio’n llawn. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd dyddiad ‘derbyn cais’ eich myfyrwyr yn cael ei gofnodi fel y tro cyntaf iddynt naill ai gadw neu gyflwyno eu cais.
I gael cymorth gyda’u cais ar-lein, gall myfyrwyr gysylltu â ni ar ein llinell gymorth rhif 0300 200 4050. Bydd hwn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm.
Os byddai'n well gan eich myfyrwyr ffurflen gais bapur, gallant ofyn am un o hyd. Gallant hefyd lawrlwytho ffurflen a chanllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW), hyd yn oed os ydynt wedi dechrau cais ar-lein.
Argraffu