Cyhoeddwyd: 25/05/2023
Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Mai 2023
Mae canllawiau gwybodaeth talu blwyddyn academaidd 2023/24 ar gael nawr
Gallwch nawr lawrlwytho’r canllawiau gwybodaeth am daliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 o Borth y Ganolfan Ddysgu.
Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Gwefan y Ganolfan Ddysgu ar gyfer LCA a GDLlC AB
Cofiwch fod gennym hefyd ein gwefan Gwasanaethau Canolfannau Dysgu i'ch cefnogi gydag unrhyw beth y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, gan gynnwys:
- canllawiau wedi'u diweddaru
- safonau gwasanaeth
- newyddion
- gwybodaeth am ddigwyddiadau SLC ar gyfer Canolfannau Dysgu
Mae dolenni i fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu yn uniongyrchol o'r wefan.
Dosbarthu pecynnau cais LCA a GDLlC AB 2023/24
Rydym bellach wedi cwblhau'r broses o ddosbarthu pecynnau cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 a dylech fod wedi derbyn eich dyraniad.
Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes angen mwy o becynnau cais papur arnoch, anfonwch e-bost atom yn emainfo@slc.co.uk.
Ceisiadau ar-lein ar gyfer 2023/24
Mae 2023/24 yn gyfnod cyffrous i LCA Cymru/GDLlC. Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd myfyrwyr newydd yn gallu gwneud cais ar-lein am eu cyllid.
Cadwch lygad barcud ar fwletinau'r dyfodol am ragor o wybodaeth ac am bryd y bydd y gwasanaeth hwn ar gael.
Rheoli llofnodi Cytundebau Dysgu LCA a GDLlC AB
Mae angen i bob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd gael LCA newydd neu Gytundeb Dysgu GDLlC AB ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, dyma eu cais ffurfiol am gymorth yn y flwyddyn academaidd honno. Mae hefyd yn cadarnhau eu bod yn bwriadu cadw at delerau'r cynllun LCA neu gynllun GDLlC AB.
Dylech nawr ddechrau annog myfyrwyr LCA a GDLlC AB a fydd yn dychwelyd ym mis Medi i lofnodi eu cytundebau dysgu cyn diwedd y tymor. Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni o Borth y Ganolfan Ddysgu.
Gall myfyrwyr lofnodi'r Cytundebau Dysgu LCA/GDLlC yn bersonol ar ffurflen bapur. Gallwch hefyd barhau i e-bostio'r cytundebau i'ch myfyrwyr os yw'n well gennych. Gallwch dderbyn e-byst dychwelyd gan fyfyrwyr fel cadarnhad eu bod yn cytuno i'w telerau LCA neu GDLlC AB. Storiwch yr e-byst hyn mewn ffeil electronig at ddibenion archwilio.
Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA a GDLlC AB
Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 11 Medi 2023. Dyma pryd rydym yn dechrau cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu.
Os yw gwir ddyddiad cychwyn eich blwyddyn academaidd yn gynharach na hyn, byddwch yn dal i allu diweddaru cytundebau dysgu a chadarnhau presenoldeb myfyrwyr cyn 11 Medi.
Argraffu