Cyhoeddwyd: 28/11/2025 · Diweddarwyd Diwethaf: 31/10/2025

Bwletin ar gyfer Tachwedd 2025


Ceisiadau LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am gyllid LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs os byddwn yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs. Ar gyfer GDLlC AB, rhaid i ddysgwyr newydd wneud cais o fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs. Rhaid i ddysgwyr sy'n dychwelyd hefyd lofnodi eu cytundeb o fewn 9 mis o ddechrau eu cwrs.

Mae’r gwasanaeth LCA ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i ddysgwyr ymgeisio yma.  

Gall dysgwyr hefyd lawrlwytho’r ffurflenni cais a chanllawiau LCA a GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar

Rydym yn agor y Porth LC yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn diweddu 19 Rhagfyr. Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldeb o 18 Rhagfyr. Bydd y dyraniadau wedyn yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r gaeaf. 

Nodwch yr wythnosau canlynol fel gwyliau:

  • pob wythnos y bydd eich Canolfan Ddysgu yn cau am wyliau
  • pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod

Bydd hyn yn nodi bod pob dysgwyr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol. Gwiriwch yr adran ‘wythnosau heb eu cadarnhau’ yn y porth hefyd.

Cadarnhau presenoldeb GDLlC a thynnu'n ôl

Wrth i ni agosáu at fis olaf tymor un, cadarnhewch bresenoldeb yr holl fyfyrwyr GDLlC cymwys ar gyfer y tymor erbyn 19 Rhagfyr.

Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o'i gwrs ar ganol blwyddyn, gwnewch yn siŵr ei fod yn diweddaru ei statws Cytundeb Dysgu i dynnu'n ôl ar y porth. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith i'r dyddiad tynnu'n ôl yn unol â'r safonau gwasanaeth.

Desg gymorth LCA a GDLlC AB

Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.

Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.

Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.


Argraffu