Cyhoeddwyd: 6/12/2024 · Diweddarwyd Diwethaf: 6/12/2024
Bwletin ar gyfer Tachwedd 2024
Ceisiadau LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am gyllid LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs os byddwn yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs. Ar gyfer GDLlC AB, rhaid i ddysgwyr newydd wneud cais o fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs. Rhaid i ddysgwyr sy'n dychwelyd hefyd lofnodi eu cytundeb o fewn 9 mis o ddechrau eu cwrs.
Mae’r gwasanaeth LCA ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i ddysgwyr ymgeisio yma.
Gall dysgwyr hefyd lawrlwytho’r ffurflenni cais a chanllawiau LCA a GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Blwch LCA wedi'i dynnu
Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud ychwanegiad i’r Porth LC yn seiliedig ar adborth o fforymau’r llynedd.
Dim ond os nad yw myfyriwr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu y bydd y blwch 'wedi'i dynnu' ar dudalen gweld rhestr waith y cais ar gael nawr. Bydd hyn yn helpu gweinyddu myfyrwyr sy'n gadael neu'n trosglwyddo eu Canolfan Ddysgu ar ôl arwyddo Cytundeb Dysgu.
Y ffordd gywir i weinyddu myfyriwr sy'n gadael neu'n trosglwyddo o'r Ganolfan Ddysgu ar ôl arwyddo Cytundeb Dysgu yw atal y cytundeb. Mae arweiniad llawn ar hyn ar wefan Gwasanaethau LC.
Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar
Rydym yn agor y Porth LC yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn diweddu 20 Rhagfyr. Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldeb o 16 Rhagfyr. Bydd y dyraniadau wedyn yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r gaeaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r wythnosau canlynol fel gwyliau:
- pob wythnos y bydd eich Canolfan Ddysgu yn cau am wyliau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob dysgwyr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol. Rhaid i chi hefyd weinyddu taliadau myfyrwyr sy'n weddill yn adran 'wythnosau heb eu cadarnhau' y porth.
Cadarnhau presenoldeb GDLlC a thynnu'n ôl
Wrth i ni agosáu at fis olaf tymor un, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau presenoldeb yr holl fyfyrwyr GDLlC cymwys ar gyfer y tymor erbyn 20 Rhagfyr.
Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o'i gwrs ganol blwyddyn, gwnewch yn siŵr ei fod yn diweddaru ei statws Cytundeb Dysgu i dynnu'n ôl ar y porth. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith i'r dyddiad tynnu'n ôl yn unol â'r safonau gwasanaeth.
Desg gymorth LCA a GDLlC
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth LC.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.
Ceisiwch ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael cyn i chi gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm rheoli cyfrifon.
Argraffu