Bwletin ar gyfer Ragfyr 2025

Diweddarwyd Diwethaf: 23 Rhag 2025

Dyddiadau Porth y Ganolfan Ddysgu yn newid

Mae Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar ar gyfer cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos yn diweddu dydd Gwener 19 Rhagfyr. Gallwch gyflwyno eich cadarnhad o ddydd Iau 18 Rhagfyr. Mae hyn yn caniatáu i gadarnhad fod yn ei le cyn i'r cyfnod gwyliau ddechrau.

A fyddech cystal â chadarnhau pob presenoldeb cyn 2pm ar ddydd Mawrth 23 Rhagfyr yn hytrach na’r terfyn amser arferol ar gyfer dydd Mercher, sef 5pm. Os byddwch yn cyflwyno cadarnhad presenoldeb mewn pryd, byddwn yn talu taliadau LCA ar gyfer yr wythnosau sy'n dod i ben ar 12 a 19 Rhagfyr ar ddydd Llun 29 Rhagfyr. Bydd myfyrwyr wedyn yn cael eu taliadau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn newydd.

Rhaid i chi ddychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob myfyriwr, p'un a yw'n bresennol ai peidio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth porth cyn i chi adael ar gyfer gwyliau'r gaeaf. Cyflwynwch hefyd gadarnhad o bresenoldeb ar gyfer unrhyw wythnosau cynharach, heb eu cadarnhau. Gallwch wneud hyn trwy wirio a oes blwch ‘wythnosau heb eu cadarnhau’ yn rhestr waith presenoldeb eich porth.

Cadarnhau presenoldeb GDLlC a thynnu'n ôl

Wrth i ni agosáu at fis olaf tymor 1, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cadarnhau presenoldeb holl fyfyrwyr GDLlC cymwys ar gyfer tymor hwn erbyn 19 Rhagfyr.

Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o'i gwrs ganol blwyddyn, sicrhewch fod ei statws cytundeb dysgu yn gyfredol. Mae hyn yn golygu newid eu statws i Wedi Tynnu'n Ôl ar y porth o fewn 30 diwrnod gwaith i'r dyddiad tynnu'n ôl yn unol â'r safonau gwasanaeth.

Gallwch gadarnhau cadarnhad presenoldeb tymor 2 ar eich dychweliad ym mis Ionawr 2026.

Desg gymorth LCA/GDLlC AB – oriau egwyl y gaeaf

Mae tîm ein desg gymorth ar gael o 9am i 5pm dydd Llun i ddydd Gwener i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system.

Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.

Dros wyliau’r gaeaf, bydd oriau agor yn newid gydag amserlen ddiwygiedig rhwng dydd Mercher 24 Rhagfyr a dydd Llun 5 Ionawr:

  • Dydd Llun 22 Rhagfyr – 9am tan 5pm
  • Dydd Mawrth 23 Rhagfyr – 9am tan 5pm
  • Dydd Mercher 24 Rhagfyr – 9am tan 12pm
  • Dydd Iau 25 Rhagfyr – ar gau
  • Dydd Gwener 26 Rhagfyr – ar gau
  • Dydd Llun 29 Rhagfyr – 9am tan 5pm
  • Dydd Mawrth 30 Rhagfyr – 9am tan 5pm
  • Dydd Mercher 31 Rhagfyr – 9am tan 12.00pm
  • Dydd Iau 1 Ionawr – ar gau
  • Dydd Gwener 2 Ionawr – ar gau

Bydd y ddesg gymorth yn dychwelyd i fusnes fel arfer ar 5 Ionawr 2026.