Cyhoeddwyd: 20/06/2024
Bwletin ar gyfer Mehefin 2024
Gwyliau’r haf
Bydd llawer ohonoch ar wyliau'r haf yn fuan. Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn terfynu 19 Gorffennaf. Gallwch gyflwyno presenoldeb o ddydd Llun 15 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu bod y dyraniadau yn eu lle cyn i chi gau ar gyfer y gwyliau.
Gwiriwch hefyd eich cofnodion gwyliau 2023/24 ar gyfer Gorffennaf ac Awst. Mae angen i chi dicio'r holl wythnosau pan fyddwch i ffwrdd yn ystod yr haf fel wythnosau gwyliau. Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, sy'n golygu bod y porth yn gyfredol.
Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwirio adran ‘wythnosau heb eu cadarnhau’ y porth. Bydd hyn yn gweinyddu unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.
Rhowch eich gwybodaeth gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, rhowch wybodaeth gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Mae angen i chi gofnodi gwyliau, gan gynnwys gwyliau haf 2025, am y flwyddyn academaidd gyfan cyn iddi ddechrau ym mis Medi.
Rhaid i chi gofnodi o leiaf 8 wythnos o wyliau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd o wyliau yn cael ei hystyried wrth benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau ennill LCA.
Ni fyddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb blwyddyn academaidd 2024/25 nes i chi gofnodi eich gwyliau. Gallai hyn effeithio ar amserlen taliadau i fyfyrwyr.
Fforymau Adolygu Gwasanaethau
Diolch i'r rhai a lwyddodd i fynychu ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau, ar-lein a wyneb yn wyneb. Gallwch weld y sleidiau cyflwyniad a Holi ac Ateb o'r fforymau ar wefan Gwasanaethau LC.
Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA
Fforymau Adolygu Gwasanaethau GDLlC AB
Ceisiadau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Anogwch unrhyw fyfyrwyr LCA a GDLlC AB newydd i:
- lenwi a llofnodi eu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
- ddychwelyd y ffurflenni cais wedi'u llofnodi gydag unrhyw ddogfennau ategol i Gyllid Myfyrwyr Cymru cyn gynted ag y gallant
Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Ceisiadau ar-lein ar gyfer 2024/25
Bydd opsiwn ymgeisio ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Disgwyliwn i hwn gael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cadwch lygad barcud ar fwletinau'r dyfodol am ragor o wybodaeth ac i weld y dyddiad y bydd y gwasanaeth hwn ar gael.
Yn y cyfamser, anogwch fyfyrwyr sydd eisiau gwneud cais nawr i wneud cais ar bapur.
Gwiriadau sampl LCA Cymru
Rydym wedi bod yn anfon llythyrau am wiriad sampl ariannol eleni i fyfyrwyr LCA Cymru sy'n dychwelyd o ddechrau mis Medi. Byddwn hefyd yn anfon nodiadau atgoffa atynt ym mis Gorffennaf ac Awst.
Gallwch weld pa rai o'ch myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio trwy fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu a gwirio'r adroddiad Gwiriad Sampl yn y tab Adroddiadau.
Argraffu