Cyhoeddwyd: 23/09/2025 · Diweddarwyd Diwethaf: 23/09/2025
Bwletin ar gyfer Medi 2025
Ceisiadau ar-lein
Gall myfyrwyr ymgeisio ar-lein. Lle bo modd, anogwch fyfyrwyr i wneud hynny. Mae'n hawdd ac yn ein helpu i brosesu ffurflenni'n gyflym.
Mae dros 85% o'n ceisiadau hyd yn hyn eleni wedi bod ar-lein. Er mwyn helpu hyrwyddo’r gwasanaeth, rydym wedi creu posteri i'w lawrlwytho a’u hargraffu i’w harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld.
Rhaid i fyfyrwyr LCA newydd wneud cais o fewn 13 wythnos i gychwyn eu cwrs i fod yn gymwys am daliadau wedi’u hôl-ddyddio’n llawn. Rydym yn cofnodi dyddiad ‘derbyn cais’ eich myfyrwyr fel y tro cyntaf iddynt gadw neu gyflwyno eu cais ar-lein.
Gall myfyrwyr gysylltu â ni ynglŷn â'u cais ar ein rhif llinell gymorth 0300 200 4050. Bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 6pm.
Os byddai'n well gan eich myfyrwyr ffurflen gais bapur, gallant ofyn am un o hyd. Gallant hefyd lawrlwytho ffurflenni cais o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC). Mae hyn ar gael hyd yn oed os ydynt wedi dechrau cais ar-lein.
Statws aros am wybodaeth
Efallai y bydd cofnodion rhai myfyrwyr newydd yn ymddangos ar y Porth LC fel 'Aros am Wybodaeth'. Gall hyn olygu bod angen iddynt lanlwytho neu anfon tystiolaeth o hyd, fel tystysgrif geni. Gofynnwch i'ch myfyrwyr fewngofnodi i'w cyfrif ar-lein a gwirio beth sydd angen iddynt ei anfon neu ei lanlwytho o hyd. Ar ôl i ni gael y wybodaeth hon, gallwn barhau gyda’u cais.
Diweddariadau i'r porth
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r porth LC i wneud pethau'n haws i chi.
Rydym wedi cyflwyno colofn 'amgylchiadau esgusodol' wrth gadarnhau presenoldeb. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod myfyrwyr sydd wedi ticio'r blwch hwn.
Ni fydd y porth yn cau mwyach ar ddiwedd blwyddyn academaidd. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddiweddaru unrhyw bresenoldeb heb ei gadarnhau a chytundebau dysgu hwyr o'r flwyddyn flaenorol.
Nodiadau atgoffa safon gwasanaeth
Nodiadau atgoffa:
Dylai pob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd lofnodi cytundeb dysgu. Rhaid i fyfyrwyr lofnodi hwn o fewn 10 diwrnod gwaith i gymeradwyo cais.
Rhaid i chi gadarnhau presenoldeb bob wythnos. Rhaid gwneud hyn cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer presenoldeb yr wythnos flaenorol.
Tynnwch unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn astudio gyda chi mwyach. Dylech eu tynnu o fewn 10 diwrnod i gymeradwyo cais.
Mae manylion llawn y safonau gwasanaeth a'r dogfennau canllaw ar gael ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.
Os bu newid yn y staff sy'n gweinyddu LCA yn eich Canolfan Ddysgu, cysylltwch â mi i drefnu sesiwn hyfforddi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
Cofiwch fod canllawiau a deunyddiau hyrwyddo ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.
Mae yna hefyd enghraifft o Gytundeb Dysgu teg a realistig ar gael, os bydd angen diweddaru eich un chi.
Mae Cytundebau Dysgu BA 2025/26 a chanllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu yn yr adran lawrlwythiadau.
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.
Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.
Argraffu