Bwletin ar gyfer Medi 2024
Diweddarwyd Diwethaf: 25 Medi 2024
Croeso i flwyddyn academaidd 2024/25
Croeso yn ôl i flwyddyn newydd o LCA/GDLlC. Fel bob amser, gwerthfawrogir eich cymorth gyda gweinyddu LCA a GDLlC i'ch myfyrwyr yn fawr.
Ceisiadau ar-lein
Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein am LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 nawr ar gael.
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i fyfyrwyr ymgeisio yma.
Mae gwneud cais ar-lein yn hawdd ac yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym, felly anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd.
Er mwyn helpu hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein, rydym wedi creu posteri y gallwch eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae’r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho ac argraffu o’r wefan Gwasanaethau LC.
Rhaid i fyfyrwyr newydd wneud cais o fewn 13 wythnos i gychwyn eu cwrs i fod yn gymwys i gael taliadau wedi’u hôl-ddyddio’n llawn. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd dyddiad ‘derbyn cais’ eich myfyrwyr yn cael ei gofnodi fel y tro cyntaf iddynt naill ai gadw neu gyflwyno eu cais.
I gael cymorth gyda’u cais ar-lein, gall myfyrwyr gysylltu â ni ar ein llinell gymorth rhif 0300 200 4050. Bydd hwn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm.
Os byddai'n well gan eich myfyrwyr ffurflen gais bapur, gallant ofyn am un o hyd. Gallant hefyd lawrlwytho ffurflen a chanllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW), hyd yn oed os ydynt wedi dechrau cais ar-lein.
Gwladolion o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig
Bu rhai newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rhannu data gyda'r Swyddfa Gartref.
Mae hyn yn golygu, o fis Medi, efallai na fydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn wladolion y Deyrnas Unedig a’u noddwyr anfon tystiolaeth ffisegol i gefnogi eu cais.
Os nad yw unrhyw un o’ch myfyrwyr yn wladolion y Deyrnas Unedig, anogwch nhw i wneud cais ar-lein neu lawrlwythwch ffurflen gais newydd a chanllawiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn sylwi ar y newidiadau newydd ac yn osgoi unrhyw oedi gyda'u cais.
Nodiadau atgoffa safon gwasanaeth
Nodiadau atgoffa allweddol
- Dylai pob myfyriwr newydd a myfyriwr sy'n dychwelyd lofnodi cytundebau dysgu o fewn 10 diwrnod gwaith i gais cymeradwy.
- Dylid cadarnhau presenoldeb bob wythnos cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer presenoldeb yr wythnos flaenorol.
Mae manylion llawn y safonau gwasanaeth a’r dogfennau canllaw ar gael ar wefannau Gwasanaethau LC:
Safon gwasanaeth a chanllawiau LCA
Safonau a chanllawiau gwasanaeth GDLlC
Os bu newid yn staff eich canolfan ddysgu, cysylltwch â mi i drefnu hyfforddiant LCA.
Negeseuon testun atgoffa cytundeb dysgu
Byddwn yn anfon negeseuon testun atgoffa ‘llofnodi eich Cytundeb Dysgu’ at fyfyrwyr nad ydynt wedi llofnodi cytundeb dysgu eto. Bydd y negeseuon yn cael eu hanfon ar ddydd Mercher 2 Hydref 2024.
Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
Cofiwch y gallwch ddod o hyd i'n holl ddogfennau canllaw LCA a GDLlC ar wefan Gwasanaethau LC.
Cymerwch amser i ymgyfarwyddo â'r cynllun. Mae cytundebau dysgu a chanllawiau gwybodaeth am daliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 hefyd ar y porth yn yr adran lawrlwytho.
Desg gymorth LCA a GDLlC
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu
Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.