Bwletin ar gyfer Mawrth 2025
Diweddarwyd Diwethaf: 31 Maw 2025
Ymosodiadau seiber
Mae ymosodiadau seiber neu ddigwyddiadau diogelwch yn dod yn fwy cyson yn y sector addysg. Gall rhai o'r rhain arwain at golli ein data neu gyfyngu ar fynediad i'n systemau. Gall hyn effeithio ar ein gallu i wneud taliadau i'n cwsmeriaid.
Os oes ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch yn effeithio ar eich system data myfyrwyr sy'n golygu na allwch ddychwelyd data i ni, rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Dylech gysylltu â’ch Rheolwr cyfrif o fewn 24 awr fan bellaf ar ôl dod yn ymwybodol o'r digwyddiad.
Dyma ganllawiau ymosodiad seiber pellach ar wefan Gwasanaethau LC.
Porth LC yn agor yn gynnar ar gyfer gwyliau'r Pasg
Rydym yn agor y Porth LC yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 7 Ebrill. Gallwch gyflwyno presenoldeb o ddydd Iau 10 Ebrill, sy'n sicrhau bod dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau. Nodwch yr wythnosau canlynol fel gwyliau:
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau am wyliau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol. Gwiriwch hefyd yr adran wythnosau heb eu cadarnhau ar y porth ar gyfer unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.
Taliadau tymor 2 GDLlC AB
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi marcio pob cadarnhad presenoldeb tymor 2 naill ai fel presenoldeb neu ddim yn bresennol cyn gorffen ar gyfer gwyliau'r Pasg. Bydd hyn yn golygu y gallwn wneud unrhyw daliadau sy'n ddyledus i fyfyrwyr cyn diwedd y tymor.
Lansio’r gwasanaeth LCA/GDLlC AB a dosbarthu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu a gwasanaeth ymgeisio ar-lein LCA/GDLlC AB ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o ddydd Llun 28 Ebrill.
Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Mae hyn yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym. Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rydym wedi darparu posteri ‘i ddod yn fuan’ i chi eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.
Byddwn yn dechrau anfon dyraniadau o becynnau cais LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ar yr wythnos yn dechrau 24 Mawrth.
Byddwn yn dosbarthu ceisiadau papur fel a ganlyn:
- bydd pob ysgol a choleg (ac eithrio anghenion addysgol arbennig) yn derbyn 50% o’r swm a anfonwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
- bydd ysgolion neu golegau anghenion addysgol arbennig yn cael yr un nifer o ffurflenni ag ym Mlwyddyn Academaidd 2024/25
- os anfonwyd llai nag 20 ffurflen atoch y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ni fyddwn yn anfon dosbarthiad atoch mwyach oherwydd gallwch chi neu’ch myfyrwyr lawrlwytho ac argraffu’r ffurflenni cais a’r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru
Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 8 Medi 2025. Byddwn yn cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu o hynny ymlaen.