Cyhoeddwyd: 21/03/2024

Bwletin ar gyfer Mawrth 2024


Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA/GDLlC 2024

Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru, mae amser a llefydd cyfyngedig yn dal i fod ar gael ar gyfer ein Fforwm adolygu gwasanaethau LCA/GDLlC 2024.

Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb i gyd yn sesiynau boreol 9.30am hyd 12.00pm (cinio tra’n gweithio 12.00pm – 12.30pm). Byddwn yn darparu te a choffi a chinio ysgafn.

15 Ebrill – Caerdydd - Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
16 Ebrill – Abertawe – Coleg Gŵyr, Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
17 Ebrill - Cyffordd Llandudno - Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
18 Ebrill - Wrecsam - Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW

Bydd digwyddiadau rhithwir yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams:

23 Ebrill – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
24 Ebrill – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
25 Ebrill – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
26 Ebrill – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am

Gallwch archebu lle mewn fforwm ar ein gwefan gofrestru. 


Ymosodiadau seiber


Mae ymosodiadau seiber neu ddigwyddiadau diogelwch yn dod yn fwy mynych yn y sector addysg. Gall rhai o'r rhain arwain at golli ein data neu gyfyngu ar fynediad i'n systemau. Gall hyn effeithio ar ein gallu i wneud taliadau i'n cwsmeriaid.

Os oes ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch sy'n effeithio ar eich system data myfyrwyr sy'n golygu na allwch ddychwelyd data i ni, rhaid i chi gysylltu â'ch rheolwr cyfrif cyn gynted â phosibl ac o fewn 24 awr fan bellaf ar ôl dod yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ymosodiad seiber ar wefan Gwasanaethau LC.


Porth LC yn agor yn gynnar ar gyfer y Pasg


Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn terfynu 22 Mawrth.
Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldebau o ddydd Llun 18 Mawrth, a fydd yn sicrhau bod dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r wythnosau canlynol fel gwyliau:

  • pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau ar gyfer gwyliau
  • pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod

Bydd hyn yn marcio pob myfyriwr yn awtomatig fel ar wyliau, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.

Gwiriwch hefyd yr adran wythnosau heb eu cadarnhau ar y porth ar gyfer unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.


Taliadau tymor 2 GDLlC

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi marcio pob cadarnhad presenoldeb tymor 2 naill ai fel presenoldeb neu ddim yn bresennol cyn gorffen ar gyfer gwyliau'r Pasg. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn wneud unrhyw daliadau sy'n ddyledus i fyfyrwyr cyn diwedd y tymor.


Pecynnau cais LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25


Byddwn yn dechrau anfon eich dyraniad o becynnau cais LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ar yr wythnos yn dechrau 15 Ebrill, ar ôl i chi ddychwelyd o wyliau'r Pasg. Byddwn yn anfon diweddariadau pellach ar y pryd.


Argraffu