Cyhoeddwyd: 30/05/2025 · Diweddarwyd Diwethaf: 30/05/2025

Bwletin ar gyfer Mai 2025


Paratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Dyma ychydig o awgrymiadau i wneud y newid i'r flwyddyn academaidd nesaf yn haws i chi a'ch myfyrwyr:

  1. Mae cytundebau dysgu bellach ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Trefnwch i fyfyrwyr sy'n dychwelyd y flwyddyn nesaf lofnodi'r rhain cyn gynted â phosibl a'u rhoi o'r neilltu mewn lle diogel. Bydd hyn yn helpu paratoi ar gyfer eu hychwanegu at y porth ym mis Medi.
  2. Gallwch lawrlwytho canllawiau gwybodaeth am daliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o Borth y Ganolfan Ddysgu.
  3. Dylech nodi wythnosau gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu nawr. Gallwch wneud hyn drwy fynd i'r tab cynnal a chadw ar y porth ac yna llywio i'r adran gwyliau a blwyddyn academaidd 2025/26. Nodwch yr holl wythnosau mae eich ysgol neu goleg ar wyliau.
  4. Gall Myfyrwyr LCA hefyd wneud cais ar-lein nawr, neu lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Rheoli llofnodi ffurflenni Cytundeb Dysgu LCA a GDLlC AB

Mae angen i bob myfyriwr newydd ac sy'n dychwelyd lofnodi Cytundeb Dysgu LCA neu GDLlC AB newydd ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, dyma eu cais ffurfiol am gymorth yn y flwyddyn academaidd honno. Mae hefyd yn cadarnhau eu bod yn bwriadu dilyn telerau'r cynllun LCA neu gynllun GDLlC AB.

Dylech nawr annog myfyrwyr LCA a GDLlC AB a fydd yn dychwelyd ym mis Medi i lofnodi eu cytundebau dysgu cyn diwedd y tymor. Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni o Borth y Ganolfan Ddysgu.

Gall myfyrwyr lofnodi'r Cytundebau Dysgu LCA neu GDLlC AB ar ffurflen bapur yn bersonol. Gallwch hefyd barhau i e-bostio'r cytundebau i'ch myfyrwyr os yw'n well gennych. Gallwch dderbyn e-byst dychwelyd gan fyfyrwyr fel cadarnhad eu bod yn cytuno i'w telerau LCA neu GDLlC AB. Storiwch yr e-byst hyn mewn ffeil electronig at ddibenion archwilio.

Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA a GDLlC AB

Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 8 Medi 2025. Dyma pryd rydym yn dechrau cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu.

Os yw gwir ddyddiad cychwyn eich blwyddyn academaidd yn gynharach na hyn, byddwch yn dal i allu diweddaru cytundebau dysgu a chadarnhau presenoldeb myfyrwyr cyn 8 Medi.

Porth LC yn agor yn gynnar ar gyfer hanner tymor

Rydym yn agor y Porth LC yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 19 Mai.

Gallwch gyflwyno presenoldeb o ddydd Iau 22 Mai. Mae hyn yn sicrhau bod y dyraniadau yn eu lle cyn i chi gau ar gyfer y gwyliau.

Ceisiadau ar-lein GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Oherwydd diweddariad i gyfraddau GDLlC AB, bu oedi wrth lansio'r gwasanaeth GDLlC AB ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Rydym yn disgwyl i hyn lansio ar 2 Mehefin. Cadwch lygad barcud ar gyfathrebiadau yn y dyfodol am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn.

Cyfraddau newydd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau ar gyfer BA 2025/26

Incwm blynyddol y cartref

Rhan-amser (275 – 499 Awr gyswllt)

Amser llawn (500+ awr gyswllt)

Hyd at £6,120

£959

£1,919

£6,121 – £12,235

£576

£959

£12,236 – £18,370

£384

£576

£18,371 ac uwch

£0

£0

Ceisiadau LCA

Rydym yn falch o gyhoeddi bod mwy na 90% o geisiadau LCA 2025/26 wedi bod ar-lein.

Parhewch i hyrwyddo ymgeisio ar-lein i'ch myfyrwyr ac anogwch nhw i wneud cais ar-lein lle bo modd. Dylai hyn wneud y daith ymgeisio yn haws ac arwain at dderbyn cadarnhad cyflymach o ddyfarniad i.

Gwefan Gwasanaethau LC ar gyfer LCA a GDLlC AB

Cofiwch y gall ein gwefan Gwasanaethau LC eich cefnogi gyda deunyddiau cyn y flwyddyn academaidd newydd gan gynnwys:

  • deunydd cyhoeddusrwydd
  • canllawiau wedi'u diweddaru
  • safonau gwasanaeth
  • newyddion
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau SLC ar gyfer Canolfannau Dysgu

Gallwch hefyd fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu o'r wefan. Cadwch y ddolen uniongyrchol hon: www.lcservices.slc.co.uk

Am fersiwn Gymraeg o wefan Gwasanaethau LC, cadwch y ddolen hon: www.gcd.slc.co.uk


Argraffu