Cyhoeddwyd: 2/11/2023

Bwletin ar gyfer Hydref 2023


Mae ceisiadau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 nawr ar gael ar-lein!

Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein am LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 nawr ar gael!

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i fyfyrwyr ymgeisio yma.

I helpu hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein, rydym hefyd wedi creu posteri y gallwch eu harddangos mewn mannau lle gall myfyrwyr eu gweld. Mae’r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho ac argraffu o’r wefan Gwasanaethau Canolfan Ddysgu.

 

Ceisiadau ar-lein myfyrwyr am GDLlC

Mae ein cynlluniau ar gyfer y system newydd yn mynd rhagddo a gobeithiwn gyflwyno gwasanaeth ymgeisio ar-lein ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Byddwn yn anfon rhagor o ddiweddariadau pan fyddant ar gael.

Gall myfyrwyr newydd barhau i ymgeisio fel arfer yn defnyddio ffurflen gais bapur y mae modd ei lawrlwytho o Gyllid Myfyrwyr Cymru.

 

Taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio

Gall dysgwyr cymwys newydd gael taliadau LCA wedi eu hôl-ddyddio i ddechrau eu cwrs, os bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn derbyn eu cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs.

Os bydd CMC yn derbyn cais fwy na 13 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs, bydd y dysgwr ond yn gymwys i gael taliadau ôl-ddyddiedig o’r dyddiad bras y derbyniodd CMC ei gais.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n dychwelyd (treigl awtomatig) lofnodi cytundeb dysgu 2023/24 o fewn 13 wythnos o ddyddiad cychwyn eu cwrs er mwyn bod yn gymwys i gael y tâl ôl-ddyddiedig llawn.

 

Cadw at y safonau gwasanaeth

Rhaid dilyn y pwyntiau canlynol yn y Safonau Gwasanaeth:

  • gwiriwch fod gwybodaeth eich dysgwyr yn gywir cyn cyflwyno eich cadarnhad presenoldeb wythnosol
  • dychwelwch gadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob myfyriwr, p'un a yw'n ‘bresennol’ neu ‘ddim yn bresennol’
  • rhaid i chi wneud eich cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cadarnhad o ddiffyg presenoldeb a hysbysiadau o unrhyw symud mewn da bryd, gan ein bod yn monitro eich dychweliadau i sicrhau cydymffurfiad â’r safonau gwasanaeth

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth ynghylch cyflwyno e4ich cadarnhad presenoldeb, cymerwch olwg ar ein canllawiau cyflym ar wefan y Ganolfan Ddysgu.

 

Adroddiad perfformiad

I'ch helpu i fonitro eich perfformiad eich hun yn erbyn y safonau gwasanaeth mae gennym adroddiadau y gallwch gael mynediad iddynt ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae'r adroddiadau hyn yn caniatáu ichi olrhain eich perfformiad mewn amser real.

Gallwch ddod o hyd i'r adroddiadau ar hafan y porth – Adroddiadau – Safonau gwasanaeth.

 

Desg gymorth LCA a GDLlC

Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.

Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.

Ceisiwch ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael cyn i chi gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.


Argraffu