Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023

Eich cyfrifoldebau chi a'n cyfrifoldebau ni mewn achos o ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch

Eich cyfrifoldebau


Os oes ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch sy'n effeithio ar eich system data myfyrwyr rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Cyfrif GDLlC AB yn syth a beth bynnag o fewn 24 awr i ddod yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Dylech wirio'r wybodaeth ganlynol a'i rhannu â'ch rheolwr cyfrif.

  1. A yw eich sianeli cyswllt yn ddiogel? Er enghraifft, a allwch chi ddefnyddio'ch e-byst, llinellau ffôn, Microsoft Teams neu lwyfannau cyfathrebu eraill?

  2. Ydych chi'n gwybod a yw data cyllid myfyrwyr wedi'i beryglu?

  3. Pa systemau ydych chi'n dal i gael mynediad iddynt?

  4. Allwch chi ddal i fewnbynnu data ar Borth y Ganolfan Ddysgu? Er enghraifft, a allwch chi gadarnhau presenoldeb o hyd neu gofnodi Cytundebau Dysgu?

Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig