Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Y broses geisio
Myfyrwyr 19 oed
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n dathlu pen-blwydd yn 19 oed yn ystod y flwyddyn academaidd berthnasol yn gallu gwneud cais am gymorth LCA yn y flwyddyn honno. Mae hyn yn berthnasol os:
- mae angen blwyddyn arall arnynt i gwblhau eu rhaglen astudio
- nad ydynt wedi cael mwy na 2 flynedd o gymorth LCA yn y 3 blynedd flaenorol
Mae hyn yn seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd pob myfyriwr sydd angen LCA am flwyddyn arall, yn 19 oed, yn debygol o fod ag amgylchiadau esgusodol neu eithriadol.
Os yw myfyriwr sydd wedi derbyn LCA yn y flwyddyn academaidd flaenorol yn 19 oed, bydd ei gais yn cael ei adnewyddu’n awtomatig.
Argraffwch y bennod hon