Home LCS Welsh /
Lwfans Cynhaliaeth Addysg /
Canllawiau /
Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer Canolfannau Dysgu LCA yng Nghymru /
Cymhwysedd /
Person sydd wedi'i eithrio rhag LCA
Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Cymhwysedd
Person sydd wedi'i eithrio rhag LCA
Gall myfyrwyr gael eu heithrio rhag asesiad prawf modd o incwm y cartref os ydynt:
- mewn gofal awdurdod lleol, gyda rhieni maeth neu'n gadael gofal
- yn gyfrifol am eu plentyn eu hunain
- yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- â hawl i Gredyd Cynhwysol o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013
- yn y ddalfa neu wedi carcharu o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Canolfan Hyfforddi Ddiogel neu Gartref Plant Diogel
Os nad yw myfyrwyr yn siŵr a ydynt wedi’u heithrio, dylent gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru am gyngor.
Argraffwch y bennod hon