Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Cymhwysedd
Cyrsiau cymwys
I dderbyn LCA, rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio cwrs cymwys. Rhaid i hyn gael ei ddarparu gan neu o fewn darparwr addysg cydnabyddedig.
Yr ysgol neu’r coleg sy’n gyfrifol am gadarnhau bod cwrs y myfyriwr yn ddilys. Gallwch wneud hyn trwy Borth y Ganolfan Ddysgu, fel rhan o’r broses i gadarnhau Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr.
Hyd y cwrs
Rhaid i bob cwrs cymwys fod yn rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn gyda:
- o leiaf 10 wythnos o hyd
- o leiaf 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos
Diffinnir amser llawn fel o leiaf 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos. Fodd bynnag, ar gyfer unrhyw gwrs lle mae'r oriau wythnosol yn uwch, rhaid i fyfyrwyr fynychu'r holl oriau a neilltuwyd. Er enghraifft, os oes gan gwrs 20 o oriau cyswllt dan arweiniad, rhaid i fyfyrwyr fynychu pob un o'r 20 awr i fod yn bresennol at ddibenion LCA.
Math o gwrs
Mae meini prawf y cwrs ar gyfer y cynllun LCA yn eang ac yn hyblyg. Rhaid i'r rhain ymwneud â chymwysterau academaidd neu alwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae cymwysterau cymwys hyd at ac yn cynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3, a gyhoeddir gan gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Nid yw cyrsiau addysg uwch ar lefel 4 neu uwch yn gymwys.
Rhaid i'r myfyriwr ddangos rhywfaint o gynnydd o'r dechrau i'r diwedd. Cynhwysir cyrsiau academaidd a galwedigaethol.
Elfennau pwysig cwrs cymwys:
- mae'n rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn neu'n rhaglen amser llawn i baratoi ar gyfer bywyd a gwaith
- hyd y rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn yw o leiaf 10 wythnos
- mae’n cael ei ddarparu gan neu o fewn darparwr addysg cydnabyddedig
- mae’n arwain at gymwysterau hyd at ac yn cynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3, a gyhoeddir gan gorff dyfarnu cydnabyddedig
- mae'n arwain at gyflawni rhaglen ddysgu bersonol a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan faes rhaglen Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith
- mae’r myfyriwr wedi’i amserlennu i astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos
Nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth LCA ar gyfer Barod am Waith, dysgu seiliedig ar waith neu gynlluniau a rhaglenni cyfatebol lle telir lwfans neu debyg.
Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn gymwys ai peidio, anfonwch e-bost at Lywodraeth Cymru yn isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.
Cyrsiau cymwys: Rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol
I fod yn gymwys ar gyfer LCA, rhaid i fyfyrwyr fod ar gwrs addysg bellach hyd at lefel 3. Mae hyn gyfwerth â Safon Uwch neu NVQ lefel 3, sy'n arwain at gymhwyster gan gorff dyfarnu cydnabyddedig.
O flwyddyn academaidd 2019/20, estynnodd Llywodraeth Cymru gymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau ar raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) sy’n cynnwys darpariaeth heb ei hachredu.
Mae pob Canolfan Ddysgu sy'n cynnig rhaglenni ILS yn gyfrifol am bennu addasrwydd y myfyrwyr.
Mae rhaglenni ILS yn dilyn amserlen gadarn o brosesau ar gyfer:
- asesiadau cychwynnol myfyrwyr
- gosod targedau
- monitro cyflawniad yn erbyn targed
Mae’r prosesau hyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â Chytundebau Dysgu LCA cyfredol.
Datblygwyd y cwricwlwm diwygiedig mewn ymateb i argymhellion a nodwyd yn Adroddiad Thematig diweddar Estyn. Mae pob rhaglen newydd wedi'i chynllunio i ddarparu dull ymarferol o ennill a chyfnerthu sgiliau, i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd fel oedolion.
O dan y cwricwlwm newydd, mae myfyrwyr ILS yn dilyn rhaglenni unigol wedi’u teilwra sy’n datblygu eu sgiliau ar draws 4 piler dysgu:
- iechyd a lles
- cyflogadwyedd
- byw’n annibynnol
- cynhwysiant cymunedol
I gefnogi’r datblygiad newydd hwn, mae myfyrwyr ag anawsterau dysgu sy’n cychwyn ar raglen ILS yn gymwys i gael cymorth LCA o flwyddyn academaidd 2019/20. Mae hyn yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys cymhwyster personol, trothwyon incwm a gofynion preswylio.
Mae'r rhaglen heb ei hachredu. Mae'n arwain at gyflawni rhaglen ddysgu bersonol a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.
Astudiaeth gysylltiedig â gwaith
Gall myfyrwyr fod yn gymwys i gael LCA os ydynt:
- ar leoliad gwaith sy'n rhan annatod o'u rhaglen ddysgu amser llawn
- nad ydynt yn cael lwfans ar wahân ar gyfer y lleoliad gwaith hwnnw
Nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael LCA os ydynt yn cael:
- lwfans neu rywbeth tebyg ar gyfer rhaglen dysgu seiliedig ar waith a ariennir
- lwfans neu rywbeth tebyg ar gyfer rhaglen brentisiaeth a ariennir
- mathau eraill o arian cyhoeddus a bennir gan Weinidogion Cymru
Dysgu o Bell
Nid oes gan reolau cynllun LCA Cymru ddarpariaethau ar gyfer dysgu o bell.
Byddwn yn dyfarnu taliadau dewisol i fyfyrwyr sy'n bodloni holl feini prawf y LCA ac eithrio presenoldeb oherwydd anabledd.
Argraffwch y bennod hon