Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023

Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru

Canllaw cyflym presenoldeb


Gallwch nodi cadarnhad presenoldeb wythnosol rhwng dydd Gwener yr wythnos honno a 5pm ar ddydd Mercher yr wythnos ganlynol.

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau a llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA cyn y gallwch gadarnhau eu presenoldeb.

Dylech gymhwyso polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol eich Canolfan Ddysgu i unrhyw fyfyrwyr LCA nad ydynt wedi bod yn bresennol. Defnyddiwch y polisi hwn i benderfynu a oedd yr absenoldeb wedi’i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.

Os oes gan fyfyriwr absenoldeb awdurdodedig, dylech nodi ei fod yn bresennol ar gyfer yr wythnos ysgol honno.

Gallai absenoldeb awdurdodedig fod yn un o’r canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddo:

  • ymweliad â phrifysgol neu goleg
  • mabolgampau ysgol neu gêm
  • lleoliad gwaith
  • absenoldeb astudio
  • argyfwng teuluol
  • apwyntiad meddygol
  • cau ysgol

Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb, byddwch yn ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr sydd wedi dweud eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu LCA. Dylech ystyried yr amgylchiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais.

Pan edrychwch ar y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu, bydd gan y myfyrwyr hyn dic yn y golofn Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol).


Sut i gadarnhau presenoldeb

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Ewch i'r ardal Worklists (Rhestrau Gwaith).

  3. Dewiswch Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).

  4. Dewiswch yr wythnos rydych am gadarnhau presenoldeb ar ei chyfer.

  5. Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’ch rhestr o fyfyrwyr.

  6. I gadarnhau presenoldeb yn unigol, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) neu On Holiday (Ar Wyliau) ar gyfer pob myfyriwr.

  7. I gadarnhau bod pob myfyriwr yn bresennol, dewiswch Confirm All (Cadarnhau Pawb). Os dewiswch yr opsiwn hwn, nid oes angen i chi drosysgrifo unrhyw fotymau radio Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) rydych chi eisoes wedi'u dewis.

  8. Unwaith y byddwch wedi dewis yr holl opsiynau sydd eu hangen arnoch, dewiswch Save (Cadw).

 

Os ydych chi wedi colli wythnos wyliau, gallwch ei diweddaru ar y dudalen hon. I wneud hyn, dewiswch y botwm Holiday (Gwyliau) ac yna dewiswch Save (Cadw).

Os ydych chi am gadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl, dewiswch eu cyfenw. Bydd hyn yn mynd â chi i gofnod y myfyriwr lle gallwch chi wneud y newidiadau.

Rhaid i chi gadarnhau presenoldeb bob wythnos. Gall myfyrwyr ddibynnu ar eu taliadau LCA ar gyfer teithio neu gostau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio.


Opsiynau statws presenoldeb

Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig.

Mae Not In Attendance (Ddim yn bresennol) yn golygu nad yw’r myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys absenoldebau anawdurdodedig.

Mae On Holiday (Ar wyliau) yn golygu bod eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol am gyfnod estynedig. Mae hyn yn cynnwys wythnosau hanner tymor, gwyliau'r Pasg a'r Nadolig a gwyliau'r haf. Gallwch osod hwn ymlaen llaw ar dab Holidays (Gwyliau) Porth y Ganolfan Ddysgu.


Newid statws presenoldeb

Bydd dewis cyfenw myfyriwr ar y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) yn mynd â chi at ei hanes presenoldeb blwyddyn academaidd lawn. Gallwch ddiweddaru unrhyw bresenoldeb a farciwyd yn flaenorol yma os oes angen.

Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'ddim yn bresennol' neu 'ar wyliau' i 'yn bresennol', bydd y myfyriwr yn derbyn taliad wedi’i ôl-ddyddio.

Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'yn bresennol' i 'ddim yn bresennol' neu 'ar wyliau', bydd y myfyriwr mewn gordaliad. Gall hyn achosi straen i fyfyriwr. Mae'n bwysig iawn felly bod gennych y dystiolaeth, y gofrestr neu'r cadarnhad absenoldeb awdurdodedig cyn i chi nodi bod myfyriwr yn bresennol.


Diweddaru presenoldeb ar wythnos wyliau

Os ydych chi ar y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb) ac yn ceisio newid statws presenoldeb myfyriwr ar wythnos sydd wedi'i nodi fel gwyliau, bydd y system yn rhwystro'r dyraniad.

I ddiweddaru presenoldeb myfyriwr unigol ar wythnos wyliau, dilynwch y camau hyn.

  1. Ar y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb), dewiswch yr wythnos yr ydych am gadarnhau presenoldeb ar ei chyfer.

  2. Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’r rhestr o fyfyrwyr.

  3. Dewiswch gyfenw’r myfyriwr. Bydd hyn yn agor ei gofnod presenoldeb lle gallwch wneud y newidiadau.

Fel arall, gallwch ddefnyddio'r ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) i chwilio am y myfyriwr ac agor ei gofnod presenoldeb oddi yno.

Os ydych yn cadarnhau bod myfyriwr yn bresennol yn ystod wythnos wyliau, bydd angen i chi nodi nodyn presenoldeb. Bydd hyn yn dweud wrthym pam y dylai'r myfyriwr dderbyn LCA am yr wythnos honno. Y dewisiadau yw:

  • summer course (cwrs haf)
  • work experience (profiad gwaith)
  • study class (dosbarth astudio)
  • Prince's Trust (Ymddiriedolaeth y Tywysog)
  • other (arall)

Os dewiswch other (arall), bydd angen i chi roi nodyn i ddweud wrthym beth yw'r rheswm penodol.


Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig