Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru
Canllaw cyflym gwyliau
Rhaid i chi gofnodi gwyliau eich ysgol neu goleg ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod cyn iddo ddechrau ym mis Medi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd ar ôl gwyliau yn cael ei hystyried. Mae'n ein helpu i benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau ennill LCA a pha rai sy'n wyliau.
Dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd o wyliau swyddogol
I fod yn gymwys am daliad LCA, rhaid i fyfyrwyr fod yn bresennol am o leiaf 2 ddiwrnod yn yr wythnos y maent yn dychwelyd o wyliau neu'n dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Os bydd y flwyddyn academaidd neu'r tymor newydd yn dechrau ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau, mae myfyrwyr yn gymwys i gael taliad LCA am yr wythnos gyntaf. Rhaid iddynt fynychu pob dosbarth ar yr amserlen yn ystod y dyddiau hyn.
Fodd bynnag, os yw'r flwyddyn academaidd neu'r tymor newydd yn dechrau ar ddydd Gwener, nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael taliad LCA am yr wythnos gyntaf.
Enghraifft 1
Mae eich ysgol neu goleg yn agor ar ddydd Iau i staff ac ar ddydd Gwener i fyfyrwyr.
Nid yw hon yn wythnos lle gall myfyrwyr fynychu am 2 ddiwrnod neu fwy. Mae hi, felly, yn wythnos wyliau.
Enghraifft 2
Mae eich ysgol neu goleg yn agor ar ddydd Iau i fyfyrwyr. Am resymau gweinyddol, rydych yn gofyn i rai grwpiau blwyddyn ddychwelyd ar y dydd Iau ac eraill ar y dydd Gwener.
Mae myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu am 2 ddiwrnod. Felly, mae’n wythnos sy’n ennill LCA.
Nid yw hon yn wythnos wyliau oherwydd ar eich cais chi y dychwelodd rhai grwpiau blwyddyn ar y dydd Gwener yn hytrach na'r dydd Iau.
Enghraifft 3
Cyn gwyliau, dim ond ar 2 ddiwrnod y mae eich ysgol neu goleg ar agor i fyfyrwyr. Nid yw myfyriwr yn mynychu gan nad oes ganddo unrhyw ddosbarthiadau ar y diwrnodau hynny oherwydd ei amserlen arferol.
Gan fod LCA yn seiliedig ar bresenoldeb, ac nad yw'r myfyriwr wedi mynychu yn ystod y 2 ddiwrnod hynny, nid oes ganddo hawl i LCA am yr wythnos honno.
Fodd bynnag, os mai dim ond ar un o'r diwrnodau hynny y mae amserlen y myfyriwr yn gofyn iddo fod yn bresennol, a'i fod yn mynychu, bydd ganddo hawl i LCA am yr wythnos.
Rheolau gwyliau
Rhaid i chi nodi eich gwyliau ar y tab Holidays (Gwyliau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai. Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd.
Ni fyddwch yn gallu cadarnhau unrhyw bresenoldeb ar gyfer myfyrwyr hyd nes y byddwch wedi cofnodi hyn.
Gallwch ddiystyru'r isafswm o 8 wythnos ar lefel myfyriwr os oes eithriadau.
Sut i ddiweddaru gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Maintenance (Cynnal a Chadw) o'r bar dewislen, yna dewiswch y tab Holidays (Gwyliau).
- Ewch i gwymplen Academic year (Blwyddyn academaidd) a dewiswch y flwyddyn academaidd gyfredol. Gallwch ddiweddaru gwyliau cyn i'r flwyddyn academaidd newydd ddechrau.
- Dewiswch y blwch ticio Holiday (Gwyliau) ar gyfer pob wythnos sy'n wythnos wyliau. Cofiwch mai wythnos wyliau yw pan fydd eich ysgol neu goleg ar gau i fyfyrwyr am 4 diwrnod neu fwy.
- Unwaith y byddwch wedi dewis eich holl wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd, dewiswch Save (Cadw).
Os byddwch yn nodi wythnos fel gwyliau, bydd y system yn nodi presenoldeb holl fyfyrwyr yr wythnos honno yn awtomatig fel On Holiday (Ar wyliau). Nid yw myfyrwyr yn cael taliadau LCA am yr amser y maent ar wyliau.
Neges gwall gwyliau ar y tab Cadarnhau Presenoldeb
Os na fyddwch yn cofnodi o leiaf 8 wythnos o wyliau, ni allwch gadarnhau presenoldeb ar gyfer unrhyw fyfyrwyr. Os ceisiwch gadarnhau presenoldeb heb gofnodi eich gwyliau yn gyntaf, fe gewch y neges gwall hon:
'You cannot confirm attendance as your school or college has not recorded the minimum (eight weeks) number of holidays for the academic year. Click the link below to see more details or correct the issue on the Maintain Holidays screen.'
('Ni allwch gadarnhau presenoldeb gan nad yw eich ysgol neu goleg wedi cofnodi'r isafswm (wyth wythnos) o wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd. Cliciwch ar y ddolen isod i weld mwy o fanylion neu i gywiro'r mater ar y sgrin Cynnal Gwyliau.’)
Argraffwch y bennod hon