Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru
Canllaw cyflym diweddaru Cytundebau Dysgu LCA
Gallwch lawrlwytho copi o'r Cytundeb Dysgu LCA o Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae hwn ar ffurf PDF, felly gallwch ei gwblhau neu ei gwblhau'n rhannol a'i gadw dros dro. Gallwch gwblhau'r cytundeb ar ffurf copi papur neu'n electronig. Gobeithiwn fod hyn yn helpu arbed amser i chi pan fyddwch chi'n mynd trwy'r broses gyda'ch myfyrwyr.
Ni ddylech newid geiriad na fformat y Cytundeb Dysgu LCA i weddu i'ch Canolfan Ddysgu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Dewis iaith
Mae’r ffurflen gais LCA a’r ffurflen Cytundeb Dysgu LCA yn gofyn i’r myfyriwr gadarnhau ym mha iaith yr hoffai i ni gysylltu â nhw. Byddwn yn parhau i anfon pob llythyr a dogfen yn y Gymraeg a’r Saesneg at bob myfyriwr. Bydd y dewis iaith yn pennu iaith unrhyw negeseuon testun y byddwn yn eu hanfon atynt.
Unwaith y bydd y dewis hwn wedi'i nodi ar y Cytundeb Dysgu LCA, dylech hefyd ei nodi ar dab Maintain Learning Agreement (Cynnal y Cytundeb Dysgu) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Sut i ddiweddaru Cytundeb Dysgu LCA
Y ffordd gyflymaf o ddod o hyd i unrhyw fyfyrwyr sydd angen cwblhau eu Cytundebau Dysgu LCA yw trwy ddefnyddio'r dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau cymeradwy newydd) ar dudalen hafan y porth.
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae'r dangosydd New approved applications (Ceisiadau cymeradwy newydd) ar frig yr Home (Hafan).
- Dewiswch nifer y ceisiadau y mae'r dangosydd yn eu dangos. Mae hyn yn hyperddolen sy'n mynd â chi at restr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA er mwyn dechrau derbyn taliadau.
- Dewch o hyd i'r myfyriwr rydych chi'n chwilio amdano a dewiswch ei gyfenw. Mae hwn yn hyperddolen a fydd yn mynd â chi i'r tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ar gyfer y myfyriwr hwnnw.
- Cwblhewch fanylion Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr, yna dewiswch Save (Cadw).
Y manylion sydd angen i chi eu nodi yw:
- dyddiad cychwyn y cwrs
- math o gwrs
- Cadarnhad Rhan 1
- dewis iaith
- caniatâd i rannu
- amgylchiadau esgusodol os yn berthnasol
Unwaith y byddwch wedi mewnbynnu’r wybodaeth hon, bydd y system yn caniatáu ichi gadarnhau presenoldeb y myfyriwr.
Gallwch hefyd ddiweddaru Cytundebau Dysgu LCA drwy'r adran Worklists (Rhestrau Gwaith) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Dewiswch y flwyddyn berthnasol o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Ewch i'r gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Approved – outstanding LA (Cymeradwywyd – ALl i gwblhau).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn creu rhestr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA i ddechrau derbyn taliadau.
Mae’r golofn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) yn dangos sawl diwrnod sydd wedi bod ers i ni gymeradwyo cais y myfyriwr. Dylai’r myfyriwr lofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA o fewn 10 diwrnod gwaith o’i gymeradwyo neu ddyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd rydym wedi dweud wrthych, pa un bynnag sydd hwyraf. - Dewch o hyd i'r myfyriwr rydych chi'n chwilio amdano a dewiswch ei gyfenw. Mae hwn yn hyperddolen a fydd yn mynd â chi i'r tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ar gyfer y myfyriwr hwnnw.
- Cwblhewch fanylion Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr, yna dewiswch Save (Cadw).
Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.
Argraffwch y bennod hon