Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Rhestrau gwaith

Opsiynau presenoldeb


Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig. Mae gan fyfyrwyr hawl i LCA tra byddant yn dysgu a all gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.

Mae Not In Attendance (Ddim yn bresennol) yn golygu nad yw’r myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys absenoldebau anawdurdodedig.

Mae On Holiday (Ar wyliau) yn golygu bod eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol am gyfnod estynedig. Mae hyn yn cynnwys wythnosau hanner tymor, gwyliau'r Pasg a'r Nadolig a gwyliau'r haf. Gallwch hefyd osod hwn ymlaen llaw gan ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau) o dan adran Maintenance (Cynnal a Chadw) y porth.

Ni ddylech ddefnyddio'r opsiwn gwyliau ar gyfer wythnosau sy'n cynnwys diwrnodau hyfforddi staff neu wyliau banc, hyd yn oed os yw eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol. Ar gyfer achosion unigryw o gau yn ystod yr wythnos, caiff y myfyrwyr eu cyfrif fel rhai sy'n bresennol.


Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig