Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Cynnal a chadw

Tab Groups (Grwpiau)


Gallwch ddefnyddio'r tab Groups (Grwpiau) i greu, diwygio neu ddileu grwpiau. Gall sefydlu grwpiau fod yn ddefnyddiol os oes gan eich Canolfan Ddysgu fwy nag un campws, er enghraifft.

Bydd angen mynediad EMA Administrator (Gweinyddwr LCA) arnoch i ddefnyddio'r tab hwn.

I greu grŵp newydd, rhowch enw a disgrifiad grŵp, yna dewiswch Add (Ychwanegu). Unwaith y byddwch wedi sefydlu grŵp, gallwch aseinio myfyrwyr iddo.

Os oes gennych unrhyw grwpiau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, gallwch eu harchifo. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Archive (Archifo), yna dewiswch Save (Cadw).

Os ydych chi am ddileu grŵp yn gyfan gwbl, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Delete (Dileu), yna dewiswch Save (Cadw).


Argraffwch y bennod hon
Yn ôl i'r brig