Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad cwsmeriaid
Tab View Application Details (Gweld Manylion Cais)
Mae'r tab View Application Details (Gweld Manylion Cais) yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am LCA. Gallwch hefyd weld statws eu cais yma.
- I ddod o hyd i fyfyriwr, dewiswch y flwyddyn berthnasol yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Nesaf, nodwch rif cyfeirnod cwsmer y myfyriwr neu ei enw cyntaf ac olaf a dyddiad geni.
- Dewiswch Search (Chwilio) a bydd y system yn dod â chofnod y myfyriwr perthnasol i fyny.
Bydd y tab hwn yn dangos statws cais y myfyriwr i chi, gan gynnwys a yw'n fyfyriwr treigl awtomatig. Mae'r dangosydd Auto rollover (Treigl awtomatig) yn weithredol pan fydd myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr yr ail neu'r drydedd flwyddyn.
Os oes angen, gallwch ychwanegu nodiadau at gyfrif myfyriwr ar y tab hwn. Gallwch hefyd dynnu myfyriwr unigol yma. Fodd bynnag, dim ond myfyrwyr nad ydynt eto wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA y dylech chi eu dileu.
Meini prawf chwilio
Customer reference number (Cyfeirnod cwsmer)
Mae'r maes hwn yn ymddangos ar bob tab ac yn cynnwys un canlyniad chwilio yn unig.
Surname and forenames (Cyfenw ac enwau blaen)
Os oes gennych fwy nag un myfyriwr â'r un enw, efallai y bydd eich chwiliad yn dod â mwy nag un canlyniad.
Academic year, AY (Blwyddyn academaidd)
Gallwch weld ceisiadau o flwyddyn academaidd flaenorol, ond ni allwch gyflwyno cadarnhad ar eu cyfer.
Date of birth (Dyddiad Geni)
Gallwch chwilio yn ôl dyddiad geni myfyriwr ochr yn ochr â’i gyfenw a’i enw cyntaf. Rhowch y dyddiad mewn fformat dd/mm/bbbb.
Argraffwch y bennod hon