Datganiad hygyrchedd
Mae’r wefan yn cael ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr Cyfyngedig (SLC) ar ran Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r SLC yn gwbl ymroddedig i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, heb ystyried technoleg neu allu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynyddu hygyrchedd ac ymarferoldeb ein gwefan a thrwy wneud hynny yn cadw at nifer o’r safonau a chanllawiau sydd ar gael. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- closio i mewn hyd at 300% heb i destun lifo oddi ar y sgrin
- lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- wrando ar y rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon
Os oes angen unrhyw un o’n llythyrau, ffurflenni neu ganllawiau a anfonir atoch mewn Braille neu brint bras, e-bostiwch brailleandlargefonts@slc.co.uk gyda:
- eich cyfeiriad
- eich Cyfeirnod Cwsmer
- yr hyn sydd angen ei newid i Braille neu brint bras
- ar gyfer print bras, cynhwyswch faint y ffont a'r math o ffont sydd ei angen arnoch
Os oes yna rannau eraill o'n gwefan na allwch gyrchu, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda trwy gysylltu â ni ar accessibility@slc.co.uk.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl nad ydynt yn gallu clywed na siarad ar y ffôn. Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain ar gyfer y rhai sy'n cael anhawster clywed ac maent yn ymweld â'n swyddfeydd yn bersonol. Neu, os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dysgwch sut i gysylltu â ni: https://www.gov.uk/government/organisations/student-loans-company
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae SLC yn ymroddedig i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘Rheoliadau Hygyrchedd’).
Rydym yn ymdrechu i gadw’n llawn at safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (“WCAG 2.1”). Rydym yn cydnabod mai dim ond yn rhannol y mae'r wefan hon yn cydymffurfio â'r safonau hynny ar hyn o bryd. Rydym wedi darparu manylion isod am feysydd presennol o ddiffyg cydymffurfio, a manylion ynghylch pryd y disgwyliwn i’r meysydd hynny gydymffurfio.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Diffyg cydymffurfio â'r Rheoliadau Hygyrchedd
Nid yw teitlau tudalennau yn unigryw ac nid ydynt yn ddigon disgrifiadol
Mae teitlau tudalennau o'r strwythur prif bennawd | enw gwefan. Nid yw'r fformat hwn bob amser yn rhoi digon o gyd-destun i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin ddeall beth yw tudalen neu beth mae'n ymwneud ag ef. Mae gan rai tudalennau yr un teitl hefyd, felly ni ellir defnyddio'r teitl i wahaniaethu rhwng tudalennau. Er enghraifft, teitl y dudalen ar yr hafan yw ‘Gwasanaethau LC – nid yw Gwasanaethau LC’ yn egluro beth yw pwrpas y wefan a dyma’r un teitl â’r dudalen gwasanaethau. Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y Rheoliadau Hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid oedd llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd AA - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl). Rydym wedi disodli unrhyw ddogfennau PDF a Word gyda thudalennau HTML hygyrch. Mae pob dogfen PDF neu Word a gyhoeddwn nawr ac yn y dyfodol yn cael eu profi i fodloni safonau hygyrchedd.
Sut rydym yn profi'r wefan hon
Cynhaliwyd y prawf llawn diwethaf ar y wefan hon ym mis Mawrth 2022. Cynhaliwyd y prawf gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf.
Mae'n orfodol i gynnwys newydd a ysgrifennwyd ar gyfer y wefan hon basio gwiriadau ar gydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd yr AA, cyn iddo gael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydyn ni'n gobeithio gwella hygyrchedd y wefan ar bob cyfle. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: accessibility@slc.co.uk.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Hygyrchedd. Os nad ydych chi'n hapus gyda sut ydym wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) am gyngor a chymorth.
Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Equalities Commission for Northern Ireland, yn lle’r EASS a’r EHRC.
Paratowyd y datganiad hwn ar 10 Mawrth 2022 ac fe’i cyhoeddwyd ar 14 Mawrth 2022.