Lansio’r Gwasanaeth LCA/ GDLlC AB a dosbarthu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Diweddarwyd Diwethaf: 31 Maw 2025
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu a gwasanaeth ymgeisio ar-lein LCA/GDLlC AB ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o ddydd Llun 28 Ebrill.
Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Mae hyn yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym. Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rydym wedi darparu posteri ‘i ddod yn fuan’ i chi eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.
Byddwn yn dechrau anfon dyraniadau o becynnau cais LCA a GDLlC AB ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26 ar yr wythnos yn dechrau 24 Mawrth.
Byddwn yn dosbarthu ceisiadau papur fel a ganlyn:
- bydd pob ysgol a choleg (ac eithrio anghenion addysgol arbennig) yn derbyn 50% o’r swm a anfonwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
- bydd ysgolion neu golegau anghenion addysgol arbennig yn cael yr un nifer o ffurflenni ag ym Mlwyddyn Academaidd 2024/25
- os anfonwyd llai nag 20 ffurflen atoch y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ni fyddwn yn anfon dosbarthiad atoch mwyach oherwydd gallwch chi neu’ch myfyrwyr lawrlwytho ac argraffu’r ffurflenni cais a’r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru
Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 8 Medi 2025. Byddwn yn cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu o hynny ymlaen.