Cyhoeddwyd: 8/03/2023 · Diweddarwyd Diwethaf: 8/03/2023

Fforymau Adolygu Gwasanaeth LCA a GDLlC 2023 – Mae cofrestru ar agor, archebwch eich lle nawr!


Mae cofrestru nawr ar gael ar gyfer ein fforymau adolygu gwasanaeth. Mae hwn yn gyfle i ganolfannau dysgu gymryd rhan mewn grwpiau bach i drafod gofynion gweinyddol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Cymru (GDLlC AB). Eleni, byddwn yn cynnal amserlen gymysg o ddigwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb.

Yn ystod y sesiwn byddwn yn rhoi diweddariad i chi ar ystadegau ceisiadau blwyddyn academaidd 2022/23 ac yn adolygu cyfleoedd ar gyfer arfer gorau yn unol â’n safonau gwasanaeth. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu adborth ar bob maes o'r ganolfan ddysgu a phartneriaeth SLC ac i gael a rhannu mewnwelediad sector.

Pwy ddylai fynychu?

Bydd y fforymau o fudd i staff a rheolwyr y canolfannau dysgu sy'n gweinyddu'r LCA a GDLlC. Bydd hefyd o fudd i'r rhai sy'n gweithio gyda systemau SLC neu mewn rolau sy'n wynebu myfyrwyr. Mae'r fforymau'n cynnig cyfle hyfforddi a rhannu gwybodaeth, gan gyfrannu at eich datblygiad personol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad â Rheolwyr Cyfrifon AB a rhannu arfer gorau gyda darparwyr eraill.

Er mwyn i gynifer o ganolfannau dysgu â phosibl fynychu, y cyfyngiad ar bresenoldeb yw 2 gynrychiolydd i bob canolfan ddysgu.

Dyddiadau a Lleoliadau

Mae yna sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle.

Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb i gyd yn sesiynau boreol rhwng 9.30am a 12pm. Byddwn yn darparu te a choffi.

  • 19 Ebrill 2023 Canolfan Gynadledda Halliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP
  • 20 Ebrill 2023 Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
  • 21 Ebrill 2023 Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
  • 02 Mai 2023 Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ
  • 05 Mai 2023 Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW

Bydd digwyddiadau rhithwir yn digwydd ar Microsoft Teams.

  • 02 Mai 2023 rhith brynhawn 1pm hyd 3pm
  • 03 Mai 2023 rhith fore 9.30am hyd 11.30am
  • 04 Mai 2023 rhith fore 9.30am hyd 11.30am
  • 04 Mai 2023 rhith brynhawn 1pm hyd 3pm

Agenda

  • croeso a chadw tŷ
  • cyflwyniadau
  • Mewnwelediad a diweddariadau 2022/23
  • safonau gwasanaeth – disgwyliadau a chydymffurfiaeth
  • diweddariad perfformiad
  • cwestiynau ac atebion

Cost

Ni chodir tâl am fynychu fforwm adolygu gwasanaeth.

Sut i gofrestru

Byddwn yn cadarnhau lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin.

Gallwch archebu lle mewn fforwm ar ein gwefan gofrestru.

Dylai deiliaid cyfrif presennol fewngofnodi i'w cyfrif ac ychwanegu'r tocyn trwy'r dudalen Fy Nhocynnau.


Argraffu