Cyhoeddwyd: 12/05/2025 · Diweddarwyd Diwethaf: 12/05/2025

Cynnydd yng nghyfraddau GDLlC AB ar gyfer y flwyddyn academaidd (BA) 2025/26


Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r symiau grant sydd ar gael ar gyfer GDLlC AB ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.

Mae GDLlC AB yn grant nad oes rhaid ei ad-dalu sydd wedi'i gynllunio i helpu gyda chost addysg bellach i fyfyrwyr cymwys. Mae'n benodol ar gyfer y rhai sy'n 19 oed neu'n hŷn. 

Mae swm y grant yn amrywio yn seiliedig ar fandiau incwm yr aelwyd, gyda'r grant uchaf ar gael i'r rhai sydd ag incwm hyd at £6,120.

Cyfraddau cyfredol ar gyfer BA 2024/25

Incwm blynyddol y cartref Rhan-amser (275 – 499 awr gyswllt) Llawn-amser (500+ awr gyswllt)
Hyd at £6,120 £750 £1,500
£6,121 – £12,235 £400 £750
£12,236 – £18,370 £300 £450
£18,371 a mwy £0  £0

Cyfraddau newydd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau ar gyfer BA 2025/26

Incwm blynyddol y cartref Rhan-amser (275 – 499 awr gyswllt) Llawn-amser (500+ awr gyswllt)
Hyd at £6,120 £959 £1,919
£6,121 – £12,235 £576 £959
£12,236 – £18,370 £384 £576
£18,371 a mwy £0  £0

Byddwn mewn cysylltiad yn fuan i roi gwybod i chi pryd y bydd gwasanaeth GDLlC AB ar gyfer BA 2025/26, gan gynnwys ceisiadau ar-lein, ar gael. Rydym yn disgwyl i hyn fod tua diwedd mis Mai.

Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, byddwn yn darparu posteri ‘Ymgeisiwch Nawr’ i chi eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Bydd y rhain yn cynnwys cod QR, sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr wneud cais.

Mae posteri ‘I Ddod yn Fuan ar gael ar y wefan Gwasanaethau LC. Bydd posteri 'Ymgeisiwch nawr' ar gael yn agosach at y dyddiad lansio.

Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu lawrlwytho ffurflenni cais ac arweiniad GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Rhowch wybod i fyfyrwyr am y cyfraddau newydd i'w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eu hastudiaethau. Byddwn yn diweddaru'r ffurflen gais ar-lein a'r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho gyda'r cyfraddau newydd.

Bydd gan unrhyw ffurflenni printiedig yr ydym eisoes wedi'u hanfon atoch yr hen gyfraddau. Pan fydd y ffurflenni hyn yn cael eu prosesu, byddwn yn eu hasesu gan ddefnyddio'r cyfraddau newydd.


Argraffu