Cyhoeddwyd: 15/06/2023

Bwletin ar gyfer Mehefin 2023


Gwyliau’r haf

Bydd llawer ohonoch ar wyliau'r haf yn fuan. Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn dechrau 17 Gorffennaf. Gallwch gyflwyno presenoldeb o ddydd Llun 17 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu bod y dyraniadau yn eu lle cyn i chi gau ar gyfer y gwyliau.

Gwiriwch hefyd eich cofnodion gwyliau 2022/23 ar gyfer Gorffennaf ac Awst. Mae angen i chi dicio'r holl wythnosau pan fyddwch i ffwrdd yn ystod yr haf fel wythnosau gwyliau. Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, sy'n golygu bod y porth yn gyfredol.

Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwirio adran ‘wythnosau heb eu cadarnhau’ y porth. Bydd hyn yn gweinyddu unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.

 

Rhowch eich gwybodaeth gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, rhowch wybodaeth gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Mae angen i chi gofnodi gwyliau, gan gynnwys gwyliau haf 2023, am y flwyddyn academaidd gyfan cyn iddi ddechrau ym mis Medi.

Rhaid i chi gofnodi o leiaf 8 wythnos o wyliau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd o wyliau yn cael ei hystyried wrth benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau ennill LCA.

Ni fyddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb blwyddyn academaidd 2023/24 nes i chi gofnodi eich gwyliau. Gallai hyn effeithio ar amserlen taliadau i fyfyrwyr.

 

Fforymau Adolygu Gwasanaethau

Diolch i'r rhai a lwyddodd i fynychu ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallwch weld y sleidiau cyflwyniad a Holi ac Ateb o'r fforymau ar wefan Gwasanaethau LC.

LCA

GDLlC AB 

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach

 

Ceisiadau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24

Anogwch unrhyw fyfyrwyr LCA a GDLlC AB newydd i:

  • lenwi a llofnodi eu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
  • ddychwelyd y ffurflenni cais wedi'u llofnodi gydag unrhyw ddogfennau ategol i Gyllid Myfyrwyr Cymru cyn gynted ag y gallant

Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

 

Ceisiadau ar-lein ar gyfer 2023/24

Mae 2023/24 yn gyfnod cyffrous i LCA/GDLlC Cymru. Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd myfyrwyr newydd yn gallu gwneud cais ar-lein am eu cyllid.

Cadwch lygad barcud ar fwletinau'r dyfodol am ragor o wybodaeth ac am bryd y bydd y gwasanaeth hwn ar gael.

 

Gwiriadau sampl LCA Cymru

Rydym wedi bod yn anfon llythyrau am wiriad sampl eleni i fyfyrwyr LCA Cymru sy'n dychwelyd o ddechrau mis Medi. Byddwn hefyd yn anfon nodiadau atgoffa atynt ym mis Gorffennaf ac Awst.

Rhaid i fyfyrwyr ddarparu'r dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani erbyn 1 Medi. Fel arall, byddant yn cael neges i ddweud na fyddant yn derbyn unrhyw daliadau LCA nes bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Gallwch weld pa rai o'ch myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio trwy fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu a gwirio'r adroddiad Gwiriad Sampl yn y tab Adroddiadau.


Argraffu