Cyhoeddwyd: 4/10/2023 · Diweddarwyd Diwethaf: 4/10/2023
Bwletin ar gyfer Medi 2023
Croeso i flwyddyn academaidd 2023/24
Croeso yn ôl i flwyddyn newydd o LCA/GDLlC. Fel bob amser, gwerthfawrogir eich cymorth gyda gweinyddu LCA a GDLlC i'ch myfyrwyr yn fawr.
Os oes newid yn eich staff a’ch bod angen unrhyw gymorth i gael eich hyfforddi i ddefnyddio'r porth neu wefan Gwasanaethau LC, cysylltwch â mi. Rwy’n hapus i drefnu naill ai ymweld wyneb yn wyneb neu weithiau gallaf drefnu sesiwn tîm ar-lein.
Nodiadau atgoffa cadw tŷ 2023/24
- ddileu unrhyw fyfyrwyr o’r porth nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
- trefnu i’r holl fyfyrwyr sy’n weddill arwyddo Cytundeb Dysgu newydd ar gyfer 2023/24
- diweddaru gwybodaeth cytundeb dysgu ar y porth o fewn 10 diwrnod i gais a gymeradwywyd
- LCA - cadarnhau presenoldeb ar gyfer pob myfyriwr bob wythnos cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer presenoldeb yr wythnosau blaenorol
- GDLlC - cadarnhau presenoldeb ar gyfer tymor 1 unwaith y byddwch yn hapus bod y myfyriwr yn cyflawni meini prawf presenoldeb eich Canolfan Ddysgu
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y safonau gwasanaeth a’r dogfennau canllaw ar ein gwefan Gwasanaeth LC:
Safonau gwasanaethau LCA
Safonau gwasanaeth GDLlC
Negeseuon testun atgoffa cytundeb dysgu
Byddwn yn anfon negeseuon testun atgoffa ‘llofnodi eich cytundeb dysgu’ at fyfyrwyr nad ydynt wedi llofnodi cytundeb dysgu yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2023.
Gwelliannau porth
Rydym wedi gwrando ar eich adborth o fforymau eleni ac rydym wedi ychwanegu gwelliant at y porth.
Gwelsom mai'r rheswm mwyaf cyffredin dros gysylltu â ni oedd newid dyddiad cychwyn cwrs anghywir ar gytundeb dysgu. Er mwyn helpu lleihau'r gwall hwn rydym wedi ychwanegu ffenestr naid ar y sgrin cyn i chi gadw manylion y cytundeb dysgu.
Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i leihau'r angen i chi gysylltu â'r tîm LCA yn y dyfodol.
Cais ar-lein
Rydym yn deall eich bod yn awyddus i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich ceisiadau ar-lein.
Cofiwch gadw llygad ar eich e-byst oddi wrthyf dros yr wythnosau nesaf am unrhyw ddiweddariadau.
Desg gymorth LCA a GDLlC
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.
Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.
Argraffu