Cyhoeddwyd: 5/02/2024
Bwletin ar gyfer Ionawr 2024
Fforymau Adolygu Gwasanaeth 2023/24
Rydym yn cynllunio ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau 2023/24. Mae nifer dda wedi mynychu’r fforymau erioed ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o’r digwyddiadau.
Rydym yn bwriadu cynnal fforymau wyneb yn wyneb a rhithwir. Byddwn yn anfon e-bost i nodi’r dyddiad yn fuan, felly cadwch lygad amdano.
Gall myfyrwyr wneud cais o hyd ar gyfer 2023/24
Nid yw’n rhy hwyr i fyfyrwyr wneud cais am LCA neu GDLlC ar gyfer 2023/24.
Mae'r ddau grant ar gael yn Gymraeg a Saesneg naill ai ar-lein neu ar ffurflenni cais papur.
Anogwch unrhyw fyfyrwyr y teimlwch eu bod yn gymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl yma.
Cadarnhad o bresenoldeb
Wrth i effaith costau byw barhau, mae mor bwysig ag erioed bod myfyrwyr yn cael eu taliadau LCA a GDLlC AB ar amser.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, cadarnhewch bresenoldeb eich myfyrwyr LCA ar borth y Ganolfan Ddysgu bob wythnos. Dylech gyflwyno eich cadarnhad cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol.
Ar gyfer myfyrwyr GDLlC AB, dylech gadarnhau eu presenoldeb ar gyfer tymor 2 unwaith y byddwch yn fodlon eu bod wedi dychwelyd i astudio.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Yn dod yn fuan
Bydd y deunyddiau 'i ddod yn fuan' ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ar gael ar ein gwefan Gwasanaethau Canolfannau Dysgu yn ystod mis Chwefror.
Ystyriwch y ffordd orau o rannu'r dogfennau hyn mewn mannau ble bydd eich myfyrwyr yn eu gweld. Gallai hyn gynnwys gwefannau gwybodaeth, cyfryngau cymdeithasol neu fyrddau gwybodaeth.
Mae'r deunyddiau hyn yn rhan bwysig iawn o hyrwyddo LCA a GDLlC AB. Byddant yn helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu haddysg yn y dyfodol.
Diolchwn i chi fel arfer am eich cefnogaeth barhaus i wneud y wybodaeth hon yn hygyrch i fyfyrwyr.
Cadw tŷ a diogelwch Porth Canolfan Ddysgu
Dylech ddod â chyfrifon unrhyw ddefnyddwyr nad oes angen mynediad i'r system arnynt mwyach i ben. Er enghraifft, efallai eu bod wedi gadael eu swydd neu wedi newid rôl. Mae hyn yn helpu sicrhau diogelwch y porth a data dysgwyr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ganllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu ar sut i wneud hyn.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol mai dim ond staff a neilltuwyd fel Cyswllt Busnes Sylfaenol neu Eilaidd fydd yn derbyn ein bwletinau, felly dylech adolygu a diweddaru'r rhestr cysylltiadau yn unol â hynny.
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system.
Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.
Argraffu