Cyhoeddwyd: 21/10/2024 · Diweddarwyd Diwethaf: 21/10/2024

Bwletin ar gyfer Hydref 2024


Ceisiadau ar-lein

Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein am LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 nawr ar gael.

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i fyfyrwyr ymgeisio yma.

Er mwyn helpu hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein, rydym wedi creu posteri y gallwch eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae’r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho ac argraffu o’r wefan Gwasanaethau LC.

Gan fod y gwasanaeth ar-lein nawr ar gael yng Nghymru, byddwn yn anfon arolwg yn yr wythnosau i ddod. Mae hyn er mwyn ein helpu i ddeall yr angen am ffurflenni cais papur ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os gallech gymryd amser i gwblhau’r arolwg, byddem yn ddiolchgar iawn.

Taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio

Rhaid i'ch myfyrwyr anfon cais LCA o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs i dderbyn taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio.

Os bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn derbyn cais o fewn 13 wythnos, mae’n bosibl y bydd taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio i ddysgwyr cymwys newydd i ddechrau eu cwrs.

Os bydd CMC yn derbyn cais fwy na 13 wythnos ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs, dim ond o'r dyddiad y derbyniwyd eu cais y byddant yn gymwys i gael taliadau wedi'u hôl-ddyddio.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n dychwelyd (treigl awtomatig) hefyd lofnodi cytundeb dysgu blwyddyn academaidd 2024/25 o fewn 13 wythnos o ddyddiad cychwyn eu cwrs er mwyn bod yn gymwys i gael y tâl ôl-ddyddiedig llawn.

Porth yn agor yn gynnar ar gyfer hanner tymor

Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn diweddu 25 Hydref.

Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldebau o 21 Hydref, felly bydd y dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r wythnosau canlynol fel gwyliau:

  • pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau am wyliau
  • pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod

Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol. Gwiriwch hefyd yr adran wythnosau heb eu cadarnhau ar y porth ar gyfer unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.

URL Porth y Ganolfan Ddysgu

Sylwch, os byddwch yn defnyddio’r ddolen hon ‘www.learningcentre.uk.com’ i gael mynediad at Borth y Ganolfan Ddysgu, bydd yn cael ei analluogi cyn bo hir. Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i hyn ddigwydd.

I gael mynediad i’r porth, cadwch a defnyddiwch y ddolen ganlynol ‘https://www.lcservices.slc.co.uk’. Byddwch yn gallu cyrchu'r porth o bob tudalen ar wefan Gwasanaethau LC.

Adroddiad perfformiad

I'ch helpu i wirio eich perfformiad eich hun yn erbyn y safonau gwasanaeth mae gennym adroddiadau y gallwch gael mynediad iddynt ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Mae'r adroddiadau hyn yn caniatáu ichi olrhain eich perfformiad mewn amser real. Gallwch ddod o hyd i'r adroddiadau ar hafan y porth trwy lywio i 'Adroddiadau’ ac yna 'Safonau'.

Desg gymorth LCA a GDLlC

Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.

Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.

Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.


Argraffu